Digwyddiad:Digwyddiad Rhwydweithio Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru - Abertawe

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Fe’ch gwahoddir i ddigwyddiad rhwydweithio Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru!

Mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn grŵp o bobl ifanc 16–25 oed sy’n dod o Gymru neu yn byw yma. Maen nhw’n cydweithio â’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig. 

Mae’n cynnig cyfle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod sefydliadau treftadaeth a diwylliant yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’r diwylliannau niferus sy’n byw yng Nghymru heddiw. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol!

Mae’r digwyddiad rhwydweithio hwn yn gyfle i chi gwrdd â phobl ifanc greadigol eraill sy’n rhannu eich diddordeb mewn diwylliant, a gwneud cysylltiadau newydd er mwyn cydweithio ar brojectau Amgueddfa Cymru a’ch gwaith eich hun. 

  • Cynhelir y digwyddiad yn Ystafell y Môr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3RD.
  • Bydd bwyd fegan / llysieuol ar gael.
  • Os oes gennych unrhyw alergeddau neu anghenion mynediad, rhowch wybod i ni drwy e-bost ar gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk
  • Bydd hwn yn ddigwyddiad dwyieithog Cymraeg a Saesneg, ond rydyn ni’n eich annog i rannu a dathlu ieithoedd eraill hefyd.

ARCHEBWCH EICH LLE

Gwybodaeth

28 Mehefin 2025, 1:00yp - 3:00yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Addas i bobl rhwng 16-25 oed.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor yn ddyddiol 10am-5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau