Cwrs:Cwrs: Cyflwyniad i Gadw Gwenyn

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cwrs hamddenol, llawn hwyl i ddechreuwyr llwyr. Mae'n cyffwrdd ar bob elfen o gadw gwenyn, ac yn gyfle gwych i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am y creaduriaid anhygoel hyn. Bydd pawb yn meithrin dealltwriaeth gadarn o sut i gadw gwenyn yn llwyddiannus, a mwynhau'r gwaith! 

**Manylion:** 

- Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 

- Dan ofal tiwtor cyfeillgar, hynod brofiadol: Alison Williams yw gwenynwraig yr Amgueddfa. Mae hi wedi bod yn gofalu am wenyn ers 10 mlynedd ac yn cadw cychod ei hun ar gyrion Penrhyn Gŵyr. 

- Awyrgylch anffurfiol, hamddenol.

- Sylw i bawb, gyda lle i uchafswm o 12 person. 

- Bydd siwtiau gwenyn a menig yn cael eu darparu, ac rydyn ni'n argymell gwisgo esgidiau cerdded neu wellingtons. 

- Oedran: ⁠16+ (rhaid i blant 16-18 fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan) 

- Mae'r cwrs yn hygyrch i bawb.

- Iaith: Mae ein rhaglen yn cynnwys cyrsiau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Cynhelir y cwrs hwn yn newis iaith yr hwylusydd, sef Saesneg.

- Darperir lluniaeth ysgafn. 

**Strwythur y Cwrs:** - Mae'r cwrs yn cynnwys cyfuniad o sesiynau dosbarth a gwaith ymarferol gyda'r gwenyn.

**Sesiwn y Bore:** 

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda hanfodion cadw gwenyn gan gynnwys: cylch bywyd y gwenyn, rheolau'r gwenyndy, paratoi'r cwch, gofalu am offer, a dysgu mwy am ryfeddodau gwenyn a pheillio. 

**Sesiwn y Prynhawn:** 

Ar ôl cinio bydd cyfle i ymgolli yn suo'r gwenyn ymhlith y cychod ar y balconi, wrth fwynhau sesiwn ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys gwisgo siwtiau gwenyn, cwrdd â'r gwenyn, ac agor y cychod er mwyn adnabod y gwahanol fathau o wenyn a deall eu rolau gwahanol. 

*Nid oes cinio yn rhan o bris y tocyn. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle.* ⁠

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

Tocynnau ar gael yn fuan!

Gwybodaeth

26 Medi 2026, 10.30am - 4pm
Pris £55 | £45 Gostyngiad
Addasrwydd Oedolion
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau