Sgwrs: Bywyd morol arbennig Abertawe a Gŵyr
Dewch i ddarganfod amrywiaeth anhygoel bywyd morol Abertawe a Gŵyr!
Archwiliwch fyd lle mae creaduriaid gwydn yn glynu wrth lannau tonnog, lle mae llongddrylliadau anghysbell yn llawn bywyd a lle mae anifeiliaid hynafol, enigmatig yn byw yn y dyfroedd dwfn, tywyll a dirgel o gwmpas Abertawe a Gŵyr.
Trwy recordiadau gwreiddiol a ffotograffiaeth hudolus a gasglwyd dros y blynyddoedd, bydd y biolegydd môr a'r ffotograffydd tanddwr Matt Green yn datgelu'r rhywogaethau unigryw ac anhygoel sy'n byw yn y dyfroedd rhyfeddol hyn.
Gwybodaeth
Llun gan Matt Green
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd