Cwrs:Cwrs: Lliwio gyda Indigo

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dim lle ar ôl

Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio indigo naturiol yn y gweithdy undydd hwn gyda Jacqui Symons o Slow Lane Studio. Byddwch yn treulio’r diwrnod yn defnyddio cafn indigo i liwio samplau ffabrig, edafedd a phapur, yn ogystal â dysgu sut i ddefnyddio’r lliw naturiol anhygoel hwn at ddibenion eraill, a sut i liwio gyda dail indigo a glaslys ffres. Bydd Jacqui hefyd yn eich dysgu sut i wneud eich cafn indigo wedi’i eplesu dau litr eich hun i fynd adref gyda chi, er mwyn parhau â’ch taith lliwio. 

**Beth i’w Wisgo:** 
Darperir ffedogau, ond bydd diferion indigo ym mhobman felly gwisgwch ddillad addas. 

Bydd menig golchi llestri hefyd yn cael eu darparu ar gyfer gweithio gyda’r cafnau indigo, ond mae croeso i chi ddod â’ch rhai eich hun.
 **Hygyrchedd:** 
Mae lleoliad y gweithdy yn hygyrch i bawb. 

**Cyfyngiadau Oedran:** 
⁠16+ (Rhaid i blant 16-18 fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan.) 

**Amseroedd:** 
11 AM - 4 PM 

**Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?** 
- Lluniaeth ysgafn 
- Darperir yr holl ddeunyddiau (inc, papur, offer a chyfarpar) 
- Byddwch yn gadael y gweithdy gyda detholiad o samplau ffabrig, edafedd a phapur wedi’u lliwio ag indigo, yn ogystal â’ch cafn indigo dau litr.

*Nid yw cinio yn rhan o bris y tocyn. Mae croeso i chi ddod â chinio gyda chi neu ymweld â'r caffi ar y safle.*

**Iaith y gweithdy:** 
Mae ein rhaglen yn cynnwys cyrsiau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Cynhelir y cwrs hwn yn newis iaith yr hwylusydd, sef Saesneg.

**Eich Tiwtor:** 
Mae Jacqui Symons yn ymchwilydd lliwiau naturiol ac artist lliwio cyfoes sy’n byw yn Llandeilo. Yn sylfaenydd Slow Lane Studio, mae hi’n chwilota, meithrin ac yn defnyddio planhigion i greu lliw ar gyfer tecstilau, papur, creu printiau a phigmentau. 

Sefydlodd Jacqui Slow Lane Studio i ddarparu adnoddau, gwybodaeth, cyngor ymarferol a gweithdai sy’n canolbwyntio ar liwio naturiol, a phigmentau a lliwiau artist a wnaed o blanhigion. Ochr yn ochr â gweithio ar brojectau a chomisiynau creadigol, mae hi’n datblygu gardd pigmentau a llyfrgell pigmentau planhigion fel cyfeirbwynt ac adnodd i artistiaid eraill.

**Y Gweithdy:** - 
**11am-1pm:** 

- Cyflwyniad i indigo

- Defnyddio cafn indigo sydd wedi’i baratoi ymlaen llaw i liwio samplau ffabrig, papur ac edafedd

- Defnyddio dail indigo a glaslys ffres


**1.30pm-3.30pm:** 

Creu eich cafn indigo wedi’i eplesu dau litr eich hun i fynd adref gyda chi


*Nid yw cinio yn rhan o bris y tocyn. ⁠Mae croeso i chi ddod â chinio gyda chi neu ymweld â'r caffi ar y safle.*


Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

Gwybodaeth

27 Medi 2026, 11yb - 4yp
Pris £55 | £45 Gostyngiad
Addasrwydd Oedolion
Sold Out
DWI1
DWI2
DWI3

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
27 Medi 2026 Sold Out  

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau