Digwyddiad:Sioe Haf Gŵyl Archaeoleg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Rydyn ni'n dathlu arddangosfa gyffrous newydd yr Amgueddfa o drysor Ann Francis. 

Gallwch chi gwrdd â datgelyddion metel lleol a fydd yn rhannu straeon ac yn cyflwyno eu darganfyddiadau eu hunain o ardaloedd arfordirol. 

Hefyd, bydd plant yn gwneud ac yn mynd â gweithgareddau Capsiwl Amser gyda nhw, bydd cerddoriaeth fyw a mwy

Sesiynau Adnabod Darganfyddiadau sy'n Addas i Deuluoedd gyda PAS Cymru.

Ydych chi erioed wedi dod o hyd i arteffact diddorol ar y traeth neu wrthrych archaeolegol dirgel yn eich gardd ac wedi meddwl beth yw e?  Dyma'r cyfle i ddarganfod yr ateb! Bydd tîm y Cynllun Henebion Cludadwy yma i edrych ar eich darganfyddiadau archaeolegol, fel crochenwaith, gwydr a gwrthrychau metel, a helpu i'w hadnabod. Mae croeso i bobl o bob oedran, does dim angen archebu ond os yw'n brysur ar y diwrnod, efallai y bydd angen i chi aros. Mae sesiynau galw heibio rhwng 10am a 12pm a rhwng 1pm a 3pm.

Gwybodaeth

1 Awst 2026, 11yb - 4yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
FA
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau