Digwyddiad:Noson Swper GRAFT
Ymgasglwch gyda ni yng ngwres y tân, am brofiad swper unigryw o dan y sêr.
Yn swatio ymhlith gwelyau toreithiog yr ardd, byddwn yn gwledda ar blatiau rhannu wrth i ni ddathlu dyfodiad yr hydref ac ysbryd cymuned.
Noson llawn bwyd tymhorol blasus a lleol yn addas.
Bydd y cwrs olaf yn cael ei weini ger y tân, i godi’n calonnau ac i sbarduno sgyrsiau newydd. (Bydd cyflenwad da o falws melys hefyd.)
....Tywydd gwlyb? Dim problem! Bydd y digwyddiad yn symud dan do i golonâd yr amgueddfa (lle mae ei naws ddiwydiannol yn tystio i’r ffaith ei fod unwaith yn seidin rheilffordd)
Tocynnau
Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer y swper hwn yn amrywio. Dewiswch y pris sydd fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.
£26 – Safonol
£18 - Hygyrch
Bwydlen
India-corn wedi'u Ffrio gyda salsa tsili leim
Reis wedi pobi gyda tomatos Gardd GRAFT a gwrd wedi'i rhostio gyda salsa verde, a llysiau tymhorol o'r ardd
Cobler afal, gellyg a phecan gyda hufen surop masarn
Cefnogir yr arddangosfa gan gefnogwyr hael People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd