Arddangosiad:Gwely Sied 21

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Y Cysyniad a’r Broses 

Crëwyd yr ardd hon ar y cyd â grŵp bach o oedolion sy’n cael eu cefnogi gan Mirus*. 

Dewisodd y tîm Warws yr Amgueddfa i ysbrydoli eu cynllun. Efallai y gwelwch chi’r rhif ‘21’ wedi’i baentio’n uchel ar du allan yr adeilad. Dyma rif yr hen sied drafnidiaeth, oedd ar un adeg yn storio nwyddau fyddai’n cyrraedd a gadael drwy’r dociau a’r rheilffyrdd. 

Byddai rhai eitemau egsotig megis bananas yn cael eu cludo yma, a sbardunodd y grŵp i blannu planhigyn banana yn yr ardd. 

Mae’r bricwaith yn adlais o’r cledrau trên oedd yn arfer rhedeg drwy’r ardal hon lle mae gardd GRAFT heddiw. 

Roedd y tîm yn awyddus i’r gofod adleisio arlliwiau cynnes briciau a llechi’r adeilad, yn ogystal â’i siapiau a’i weadau, gan ddod ag ychydig o’i hanes i mewn i’r ardd. 

Y Tîm – Mirus  

Mae Mirus yn rhoi cymorth i bobl ag anableddau dysgu neu salwch meddwl a phobl awtistig allu gwneud y pethau maen nhw’n eu caru, cyflawni eu hamcanion a byw bywydau da yn eu cymunedau. 

Y Dylunydd – Emma Yousef 

Gweithiodd y dylunydd gerddi gwobrwyog Emma Yousef yn agos â’r grŵp, gan eu helpu nhw i ddewis y planhigion, y cynllun, a sut allai popeth blethu i greu gardd brydferth. 

Yr Artist – Ren Wolfe 

Helpodd yr artist Ren Wolfe y grŵp i greu gosodwaith crog, gan ychwanegu symudiad a sŵnclonciani’r ardd, wedi’i ysbrydoli gan synau posib Sied 21 ar ei hanterth. 

Y Planhigion 

Daeth y planhigion hardd hyn o Ganolfan Arddio Killan Fawr, Dyfnant, Abertawe, sy’n lleol i’r Amgueddfa. 

 

Gwybodaeth

8 Gorffennaf–31 Hydref 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
21 shed bed
21 shed bed
21 shed bed
21 shed bed
21 shed bed
21 shed bed

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau