Digwyddiad:CSI Abertawe
Dewch draw i’r orielau gyda’r hwyr i ymuno â’r Tîm Archwilio Trosedd, gan ddefnyddio technegau gwyddonol go iawn i astudio’r dystiolaeth a darganfod y dihiryn.
Allwch chi helpu i ddarganfod beth ddigwyddodd?
Dirgelwch yr Amgueddfa
Yn ystod ei batrôl boreol arferol, mae swyddog diogelwch wedi dod o hyd i weithiwr cynnal a chadw’r amgueddfa yn anymwybodol...
I ddechrau, roedd yn ymddangos fel damwain syml yn y gweithle, ond yn fuan daeth ymchwilwyr o hyd i dystiolaeth a oedd yn awgrymu rhywbeth llawer mwy sinistr.
Yn ddiweddar, mae’r Amgueddfa wedi datgelu arddangosfa newydd ysblennydd sy’n cynnwys trysor o’r 16eg ganrif a gafodd ei adfer o longddrylliad y llong Ann Francis. Ymhlith y darnau o aur ac arian disglair, mae clo cyfuniad cymhleth o un o’r cistiau trysor, clo sydd heb ei ddatrys ers canrifoedd.
Roedd cynnwrf ymysg staff yr amgueddfa pan ddaethon nhw o hyd i ail glo oedd yn rhan o’r un trysor! Credir bod y clo newydd, sy’n cael ei roi ar ddangos heddiw, yn cynnwys map cudd a allai arwain at ffortiwn a gladdwyd yn gyfrinachol gan y smyglwr drwg-enwog Francis Shaxton.
Ond pan aeth y curadur i nôl yr arteffact o ddaeargell yr amgueddfa y bore yma, roedd wedi diflannu..!
Doedd dim arwyddion bod rhywun wedi gorfodi eu ffordd i mewn i’r ddaeargell, dim cloeon wedi’u difrodi, a dim tystiolaeth bod rhywun wedi torri i mewn i’r adeilad. Mae’n ymddangos bod pwy bynnag a gymerodd yr ail glo yn gwybod yn union ble roedd yn cael ei gadw a bod ganddyn nhw’r awdurdod i fynd i mewn i’r ddaeargell.
Nawr, gyda gweithiwr amgueddfa wedi’i anafu ac arteffact amhrisiadwy ar goll, mae’r heddlu’n credu mae rhywun o’r amgueddfa sy’n gyfrifol.
Eich her chi yw edrych ar y dystiolaeth, a defnyddio technegau ymchwilio gwyddonol i brofi’r bobl sy’n cael eu hamau cyn i’r lleidr ddiflannu…🔎🔐🏴☠️
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 28 Hydref 2026 | 18:30 | Gweld Tocynnau |
Digwyddiadau perthnasol
Ymweld
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadParcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd