Banner glas gyda'r rhif deg yn amlwg yn y canol mewn glas goleuach, mae amlinelliad delweddau sydd yn ymwneud a gwyddoniaeth yn y rhif ac hefyd yn y banner ei hun, Mae'r geiriau 'Gwyl Wyddoniaeth' wrth ochr y rhif hefyd

Digwyddiadau:Gwyl Wyddoniaeth Abertawe 2026

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Logo Prifysgol Abertawe, mae'r cefndir yn wyn a'r testun yn ddu

Ni allwn aros i’ch croesawu am benwythnos o greu, archwilio a darganfod yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2026!

Uchafbwyntiau’n cynnwys: 
 
•       Cyffesion Bradwr – bydd dau o gystadleuwyr mwyaf cofiadwy Cymru o The Traitors, Fiona ac Amanda, a'r seicolegydd o Brifysgol Abertawe, Dr Alex Jones, yn archwilio gwyddoniaeth twyll, ymddiriedaeth ac ymddygiad dynol
•       Taclau Gwyrdd Grace – ymwelwch â gweithdy trydanol y cyflwynydd CBeebies
•       Sioe Wyddoniaeth Byd Harry Potter – bodloni ysbrydion chwilfrydig ‘Muggles’ ym mhobman
•       Bomiau Bath – gwnewch sblash yn ein gweithdy lliwgar
•       Gwyddoniaeth Gyflym – sut mae gwyddonwyr bywyd go iawn Abertawe yn newid y byd
Tocynnau o £1 y person ynghyd â rhaglen enfawr o arddangosfeydd a gweithgareddau AM DDIM.

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau