Digwyddiad:Baddon Sain gyda The Silence Within
...Tocynnau ar gael yn fuan...
Mae’n bleser gennym weithio gyda The Silence Within i gynnig lleoliad unigryw a thawel, yng nghanol casgliadau’r Amgueddfa a chanrifoedd o straeon, ar gyfer profiad baddon sain adferol.
Islaw trawstiau uchel Oriel hardd y Warws, dewch i gysylltu â’r dirgryniadau esmwythaol, a mwynhau'r llonyddwch, myfyrdod a chysylltiad, lle mae hanes a sain yn dod ynghyd mewn cytgord perffaith.
Beth yw baddon sain?
Efallai eich bod chi…
- wedi gorflino’n feddyliol
- methu ymlacio
- yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros bawb arall
- wedi colli eich egni
Os ydy un o’r rheiny’n teimlo’n gyfarwydd,
rydych chi mewn cwmni da. Nid dysgu sut i fyfyrio yw baddon sain A Silence Within na cheisio clirio'ch meddwl neu gyrraedd rhyw nod.
Yn syml, am awr gyfan, ni fydd unrhyw un yn disgwyl unrhyw beth gennych.
Gallwch orwedd, gwneud eich hun yn gyfforddus, a gwrando.
Mae rhai pobl yn gorffwys yn drwm, mae eraill yn mwynhau’r ffaith nad oes angen iddynt fod yn rhywle arall.
Nid oes ffordd gywir i fwynhau’r profiad.
Nid oes angen profiad.
Cyrhaeddwch fel ydych chi.
Gwybodaeth
Ymweld
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadParcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd