Digwyddiad:Gŵyl y Mari Lwyd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dyma’ch cyfle i ddathlu hud canol gaeaf gydag un o draddodiadau mwyaf diddorol a hyfryd Cymru, y Fari Lwyd. 

Ymunwch â ni am ddiwrnod o weithdai creadigol, stondinau gan artistiaid a gwneuthurwyr a digon o hwyl yr ŵyl, gyda pherfformiad a gorymdaith dan arweiniad y Fari Lwyd! 

Mae traddodiad y Fari Lwyd yn unigryw i Gymru – dewch i weld penglog ceffyl lliwgar yn dod yn fyw trwy gerddoriaeth, drygioni a digon o hwyl a sbri. 

Mae'r digwyddiad creadigol hwn yn archwilio straeon, arferion a llên gwerin y Fari Lwyd, gyda chyfleoedd i fod yn greadigol a darganfod rhywbeth newydd.   

Dathliad o droad y flwyddyn, gyda gwreiddiau traddodiadol Cymreig a naws y gaeaf. 

Gwybodaeth

10 Ionawr 2027, 12-3
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Mari Lwyd

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau