Digwyddiad:Nadolig Bach

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dathlwch hwyl yr ŵyl yn ein digwyddiad Nadoligaidd i blant dan 5 a'u teuluoedd. 

  • Celf a chrefft ar thema Nadolig
  • Gweithgareddau chwarae tymhorol
  • Sesiwn amser odli bywiog yn Gymraeg. 

Gall y plant archwilio, creu a chwarae wrth i'r teuluoedd fwynhau treulio amser gwerthfawr gyda'i gilydd mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar. 

A bydd ymweliad arbennig gan Siôn Corn! ⁠

Dyma gyfle gwych i blant a'u teuluoedd ddathlu hwyl yr ŵyl gyda'i gilydd.  🎄✨

Gwybodaeth

4 Rhagfyr 2026, 10.30yb - 12.30yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Plant dan 5 a’u teuluoedd
nadolig

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau