Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae gan Gymru le i hawlio taw hi oedd cenedl ddiwydiannol gynta'r byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd de Cymru'n benodol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel canolfan ar gyfer diwydiannau trwm, cynhyrchu glo a'r fasnach forwrol. Gadawodd y crynhoad hwn o ddiwydiant ac arloesi etifeddiaeth gref o adnoddau mewn print, ac archifau y gellir eu defnyddio ar gyfer pob math o waith ymchwil hanesyddol, economaidd a diwylliannol.
Mae chwe llyfrgell ac archif ymchwil pwysig yn Abertawe. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn creu un o'r cyfleusterau ymchwil gorau o ran treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Lleolir y rhan fwyaf o'r rhain o fewn milltir i'w gilydd yn ardal forwrol hanesyddol Abertawe.