Ein Partneriaid

Logo Dinas a Sir Abertawe

Dinas a Sir Abertawe

Cafodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ei sefydlu drwy bartneriaeth gyfreithiol ac ariannol rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe, wedi’i hwyluso gan grant mawr Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Yn ogystal â darparu diwrnod o hwyl addysgiadol i ymwelwyr, mae’r Amgueddfa yn chwarae rôl allweddol fel un o brif atyniadau diwylliannol Abertawe sydd wedi helpu i adfywio ardal hanesyddol y marina. Mae’r Amgueddfa hefyd yn gweithio’n agos â Dinas a Sir Abertawe wrth gydlynu gwaith sefydliadau diwylliannol i leddfu effaith tlodi ac amddifadedd.

Ers agor ym mis Hydref 2005, mae’r atyniad gwerth £33.5 miliwn wedi ennill enw da rhyngwladol am ei dehongliadau digidol ac ymgysylltu cymunedol. Bob blwyddyn, mae’r Amgueddfa’n denu dros 250,000 o ymwelwyr, ac yn cynhyrchu dros £7 miliwn o incwm twristiaeth leol.