Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.
Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.
Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Datganiad hygyrchedd ein gwefan
Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd.
Eisiau cofrestru?
Menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi'i rheoli gan Creu Cymru, mewn partneriaeth â Diverse Cymru yw Hynt; Ewch i wefan Hynt i gael gwybod sut i ymaelodi -https://www.hynt.co.uk/cy/ymunwch/dod-yn-aelod-o-hynt/
Oes cerdyn Hynt gennych chi yn barod?
Gallwch chi archebu tocynnau gyda'ch cerdyn Hynt yn y ffyrdd canlynol:
Wyneb yn wyneb ym mhob un o'n safleoedd: bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i'ch helpu.
Ar-lein: Ychwanegwch Rif eich Cerdyn Hynt at eich cyfrif drwy glicio ar y ddolen hon. Nodwch, gall hyn gymryd hyd at 24 awr i'w brosesu.
Pan fydd eich cyfrif wedi diweddaru gyda'ch manylion Hynt, mewngofnodwch i'ch cyfrif a gallwch archebu eich tocynnau fel arfer. Bydd tocynnau Hynt yn ymddangos wrth ddewis tocynnau. Yr oll sydd angen i chi wneud yw dangos eich Cerdyn Hynt yn y digwyddiad, a dyna ni!
*Sylwer – byddwch chi ond yn gallu ychwanegu’r nifer benodol o docynnau Hynt at eich archeb a osodwyd yn ystod y broses ymgeisio.
Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.
Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa
Mae tair mynedfa i’r Amgueddfa. Mae pob mynedfa yn arwain at y brif neuadd. Does dim grisiau, ac mae’r drysau’n awtomatig neu’n agor gyda botwm.
Dyma’r mynedfeydd:
- Mynedfa’r Dre (What3Words – anyone.simply.lions)
- Mynedfa’r Golofnres (What3Words – maple.tolls.neck)
- Mynedfa’r Marina (What3Words – behind.ship.prices)
Adegau Tawel
Gall yr Amgueddfa fod yn brysur iawn ac yn swnllyd weithiau. Yr adeg dawelaf i ymweld â’r Amgueddfa yw 3pm ymlaen, fel arfer. Mae ein holl orielau yn cau am 4.45pm ac mae’r Amgueddfa yn cau am 5pm.
Ardaloedd tawel
Mae ystafell dawel ar gael i’w defnyddio ar y llawr gwaelod wrth y lifftiau yn y brif neuadd. Mae’r ystafell hon ar gael i ymwelwyr a hoffai dreulio ychydig o amser tawel i ffwrdd o’r orielau.
Mae ardal ddarllen/eistedd gyfforddus ar y llawr cyntaf hefyd yn yr Oriel Cyflawnwyr.
Goleuadau a thymheredd
Mae’r Amgueddfa yn defnyddio golau a sain i adrodd straeon. Bydd golau a lliwiau gwahanol ym mhob oriel.
Mae’r tymheredd yn amrywio wrth i chi symud trwy’r Amgueddfa ac mae rhai orielau a gofodau yn eithaf oer. Efallai hoffech chi ddod â dilledyn ychwanegol gyda chi i’w wisgo yn yr ardaloedd hyn.
Llawr anwastad
Sylwch fod y llawr yn anwastad y tu allan yng ngardd GRAFT; byddwch yn ofalus yn yr ardaloedd hyn.
Benthyg cadair olwyn
Mae cadeiriau olwyn ar gael i’w benthyg o’r Dderbynfa ar gais. Mae’r rhain yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Yn anffodus, allwn ni ddim darparu cymorth staff o amgylch yr Amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Allwch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn allan o’r Amgueddfa.
Sgwteri symudedd
Mae croeso i chi ddefnyddio sgwteri symudedd yn yr Amgueddfa.
Clirio’r safle mewn argyfwng
Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf. Mae larymau tân gweledol gyda goleuadau sy’n fflachio yn gweithredu hefyd.
Lifft a mynediad i’r orielau
Mae’r rhan fwyaf o’r lifftiau yn yr Amgueddfa yn addas i gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd ac maen nhw’n defnyddio cyhoeddiadau sain. I weld lleoliadau’r holl lifftiau, edrychwch ar ein map o’r Amgueddfa. Mae arwyddion sy’n nodi ble mae pob lifft a sut mae’n gweithio. Bydd staff yr Amgueddfa wrth law i helpu.
Llawr Gwaelod
Derbynfa
Y Brif Neuadd
Siop yr Amgueddfa
Caffi’r Amgueddfa
Ystafell Dawel
Oriel Newydd
Oriel Gwnaed yng Nghymru
Oriel y Golofnres
Gardd GRAFT
Toiledau Hygyrch
Lleoedd Newid
Llawr Cyntaf
Oriel y Wal Goch
Oriel y Wal Wen
Oriel y Warws
Oriel Cyflawnwyr
Cornel Ddarllen
Ardal Chwarae
Toiledau Hygyrch
Os hoffech chi logi rhai o’n gofodau ar gyfer digwyddiad arbennig neu breifat, edrychwch ar ein tudalennau Llogi Lleoliad am ragor o wybodaeth.
Toiledau Hygyrch
Mae toiledau ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf. Mae toiledau hygyrch ar y ddau lawr yn yr un mannau. Mae drysau’r toiledau a’r sychwyr dwylo yn swnllyd yn yr ardaloedd hyn.
Mae toiledau’r llawr gwaelod wrth ymyl y caffi. Mae mwy o doiledau yn yr Oriel Cyflawnwyr, ar y llawr cyntaf.
Cyfleusterau newid cewynnau
Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, wrth ymyl y toiledau.
Lleoedd Newid
Yn ogystal â’n toiledau hygyrch, mae gennym ni gyfleusterau Lleoedd Newid ar y llawr gwaelod nesaf at yr Oriel Rhwydweithiau, ar bwys y grisiau. Mae ein Lle Newid yn cynnwys cawod, sinc sy’n codi a gostwng, gwely a chyfleusterau ar gyfer offer codi. Gofynnwch am allwedd Radar wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd.
Dewch o hyd i Leoedd Newid eraill. Toiledau Lleoedd Newid (changing-places.org)
Seddi
Mae rhai seddi yn rhai o’r orielau a gofodau cyhoeddus, yn y caffi ac yng ngardd GRAFT.
Mae croeso i chi ddefnyddio ffyn cerdded neu stolion plygu â sedd, cyn belled â bod gorchuddion rwber ar y gwaelod.
Seiniau Cyfoethog
Bydd seiniau diwydiannol, pobl yn siarad a mwy yn rhai o’n horielau. Cadwch lygad am y symbolau llygad a thrwyn yn y stori weledol ar gyfer yr holl leoliadau hyn.
Cŵn gwasanaeth
Rydyn ni’n deall y bydd angen i rai o’n hymwelwyr gael cymorth ci gwasanaeth ac rydyn ni’n falch o groesawu cŵn gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Dylai cŵn gwasanaeth gael eu goruchwylio a’u cadw dan eich rheolaeth drwy gydol eich ymweliad, gan aros ar dennyn a gwisgo’r tabard neu’r harnais priodol, yn ddelfrydol. Gofynnwch i aelod o staff eich cyfeirio at y toiled/ardal mynd i’r toiled agosaf. Mae dŵr yfed ar gael ar gais o’r caffi.
Dolenni Sain
Mae dolenni sain wedi’u darparu wrth y Dderbynfa, yn y siop, ac wrth gownteri’r caffi. Mae’r holl ddolenni sain yn gweithredu ar y gosodiad ‘T’. Gosodwch eich cymorth clyw i’w actifadu.
Bagiau synhwyraidd
Mae nifer gyfyngedig o fagiau synhwyraidd ar gael i’w benthyg am ddim o’r Dderbynfa. Mae’r rhain yn ffordd ddifyr i helpu ymwelwyr i archwilio’r Amgueddfa. Mae’r bagiau yn cynnwys:
Clustffonau canslo sŵn
Teganau fidget
Tortsh
Chwyddwydr
Map Synhwyraidd
Map Synhwyraidd
Mae mapiau a bagiau synhwyraidd ar gael o’r Dderbynfa. Gallwch chi ddefnyddio’r map synhwyraidd i ddod o hyd i lefydd synhwyraidd yn yr Amgueddfa. Cofiwch, gan fod adeilad ac arddangosfeydd yr Amgueddfa yn newid yn rheolaidd, efallai na fydd rhannau o’r map yn gyfredol ar ddiwrnod eich ymweliad.
Oriau tawel
Ymunwch â ni ar gyfer ein hawr dawel hamddenol wythnosol, sy’n cael ei chynnal bob dydd Llun rhwng 3-4pm ar gyfer unrhyw un a fyddai’n gwerthfawrogi ymweliad mwy llonydd â’r Amgueddfa. Am ragor o wybodaeth a manylion am ein hawr dawel hamddenol nesaf, edrychwch ar ein dudalen Digwyddiadau.