Ymweliadau Rhithiol


Ymunwch ag Amgueddfa Cymru ar-lein gyda'ch dosbarth am weithdy rhyngweithiol byw am ddim. Edrych yn fanylach ar drysorau'r Amgueddfa, ac ymuno â sgyrsiau ysgogol gyda staff yr Amgueddfa. Cefnogir pob sesiwn gydag adnoddau digidol perthnasol, a chynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw.

Diolch yn fawr i Sefydliad Hodge a Chyfeillion Amgueddfa Cymru am gefnogi ein gweithdai rhithiol.

Cysylltwch a ni bob tymor!

  • Mae ymweliadau rhithiol AM DDIM i ddisgyblion yng Nghymru!
  • Cyfle i ymwneud â staff a chasgliadau’r Amgueddfa.
  • Meysydd Dysgu a Phrofiad: Y Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
  • Pob rhaglen yn digwydd dros Teams, a rhaid archebu ymlaen llaw.
  • Lawrlwythwch y canllaw hwn:Paratoi ar gyfer ymweliad rhithiol.
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11, 11-14, 14–16
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11