Digwyddiad: STREIC! 1984-1985
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Ar 1 Mawrth 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y byddai 20 o byllau yn cau ac 20,000 o swyddi yn cael eu colli. Streiciodd y glowyr am flwyddyn gyfan, a newidiodd hanes gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol Cymru am byth
I goffáu Streic y Glowyr 1984-85 mae Amgueddfa Cymru yn cyflwyno Streic! 1984-1985, gydag arddangosfeydd yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a digwyddiad yn Big Pit.
Mae rhagor o wybodaeth am Streic y Glowyr, a’i effaith ar bobl gyffredin – y glowyr, rheolwyr, gwragedd a phlant, gwleidyddion a heddweision – ar gael yng nghylchgrawn GLO - Streic.
Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth.