Digwyddiad:Parti Mawr Big Pit

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Dewch i Big Pit am ddiwrnod llawn cerddoriaeth, bwyd a dathlu i ddechrau'r Haf!  

Dewch i fwynhau....

Detholiad o stondinau bwyd a diod

Perfformiadau 

Cyfle i gwrdd â Byti'r Arth a chymryd hunlun.

Y Daith Danddaearol fyd-enwog, Arddangosfa Baddonau Pen Pwll, Brenin Glo: Y Profiad Cloddio a llawer mwy!

 

Ydych chi'n bwriadu mynychu'r ŵyl?

Cofrestrwch eich diddordeb 

Gwybodaeth

4 Gorffennaf 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Y Parti Mawr 2026

Y Parti Mawr 2026

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Ar agor yn dyddiol 9.30yb - 5yp   
Mynediad olaf: 4pm

Teithiau dan ddaear: 10yb - 3yp

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

 Mynediad

Gwybodaeth cyffredinol a gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl

Canllaw Mynediad

 Parcio

Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

Wedi ysbrydoli gan y profiad tanddaearol a'n casgliadau, bydd ein Siop Anrhegion ar agor yn ystod eich ymweliad, gyda detholiad o nwyddau ac anrhegion, wedi’u creu yn arbennig, ar gael i brynu. 

Mae ein Siop Goffi ar agor yn dyddiol, 10am-4pm, ac yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. 

Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa, ond gofynnwn i chi gymryd eich sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda, a helpwch ni i gadw Big Pit yn daclus. 

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau