Digwyddiad:Signalau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen

Mae Signalau yn archwilio sut mae mudiadau radical y gorffennol yn bodoli mewn solidariaeth rhyngwladol gyda mudiadau heddiw.

Gan weithio gyda Llantarnam Grange, a trwy  edrych ar gasgliadau, sgyrsiau a chymuned Big Pit drwy lens wrth-drefedigaethol, gwrthgyfalafol ac ecolegol, mae Sadia Pineda Hameed wedi gwneud cysylltiadau rhwng hanes glofaol Cymru a’i streiciau, a mudiadau llafur mwyngloddio ledled y byd heddiw.

Galwadau Hirbell, 2025 - Cerflun piwtar a gosodwaith 

Cyfres o gerfluniau ffôn llinyn ar ffurf llestri arian coffaol yw Galwadau Hirbell, gyda phob pâr yn cysylltu rhwng cydsafiad streiciau’r glowyr yng Nghymru a mwynwyr gwledydd De’r byd. Wedi’i ysbrydoli gan system glychau Big Pit – a ddefnyddid gan lowyr i gyfathrebu dan y ddaear mewn cod trwy gyffwrdd dwy wifren fetel â’i gilydd.

Sain yn Symud, 2025 - Ffilm 16mm ac archifol 8mm (8 mun) a gosodwaith yn cael ei dangos yn ddyddiol o 3pm-4pm 

Gwaith dyfaliadol yw Sain yn Symud sy’n pontio’r 1980au a Chymru’r dyfodol agos, wedi’i saethu ar Super 16mm. Yn y ffilm, clywir synau ymgyrchoedd a strategaethau gwrth-drefedigaethol a gwrthgyfalafol a streiciau mwynwyr ein hoes ni yn cael eu darlledu’n danddaearol i’r gorffennol drwy flychau ffrydio Soundcamp.

Safbwynt(iau)

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, mae Safbwynt(iau) yn fenter arloesol sy'n dod â saith artist o ddiwylliannau amrywiol at ei gilydd i archwilio'r cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a hanesion byd-eang ymerodraeth, mudo a gwrthsafiad. 

Mae'r arddangosfa Safbwynt(iau) yn cael ei chynnal ar draws saith safle Amgueddfa Cymru, gyda phob artist yn taflu goleuni ar hanesion cudd sydd wedi'u hymgorffori yn y casgliad cenedlaethol. 

Gwybodaeth

31 Mai–31 Awst 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau