Digwyddiad:Coblynnau Big Pit
Archwiliwch lên gwerin glofaol Cymru a darganfod creaduriaid chwedlonol a direidus y pyllau glo.
Dewch i greu masg Coblyn yn barod ar gyfer Calan Gaeaf, a chasglu taflen Llwybr Coblyn am ddim o'r Ystafell Coity cyn crwydro Big Pit i weld olion y creaduriaid bach.
Ar ôl i chi greu eich masg, dewch draw i Ystafell Kearsley ar gyfer Dawns y Coblynnau! Dysgwch ddawns werin fer ac ymuno â’r hwyl a sbri.
Gwybodaeth Ychwanegol
Casglwch fap o'r dderbynfa wrth gyrraedd yr Amgueddfa.
Crëwch eich masg Coblyn a chasglu taflen llwybr o’r Ystafell Coity, adeilad rhif 12
Cynhelir Dawns y Coblynnau yn Ystafell Kearsley, adeliad rhif 12.
Nodwch y bydd cerddoriaeth a goleuadau’n fflachio yn ystod Dawns y Coblynnau, a allai fod yn anaddas i rai ymwelwyr.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Ar agor yn dyddiol 9.30yb - 5yp
Mynediad olaf: 4pm
Teithiau dan ddaear: 10yb - 3yp
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Parcio
Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
Wedi ysbrydoli gan y profiad tanddaearol a'n casgliadau, bydd ein Siop Anrhegion ar agor yn ystod eich ymweliad, gyda detholiad o nwyddau ac anrhegion, wedi’u creu yn arbennig, ar gael i brynu.
Mae ein Siop Goffi ar agor yn dyddiol, 10am-4pm, ac yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa, ond gofynnwn i chi gymryd eich sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda, a helpwch ni i gadw Big Pit yn daclus.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd