Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Yn y gweithdy undydd hwn, byddwch chi'n dysgu am ddefnyddio pigment priddliw lleol i greu eich deunyddiau celf naturiol unigryw eich hun.
Yn y bore, byddwn ni’n mynd am dro bach i ardal treftadaeth ddiwydiannol Garn Yr Erw i weld rhai pigmentau yn eu cynefin. Yn ôl yn y stiwdio, bydd Caroline yn dangos sut mae hi'n gwneud pastelau a phaent o'r pigmentau hyn.
Byddwch chi'n dysgu sut i ganfod a chreu deunyddiau celf unigryw o bigmentau yn eich milltir sgwâr, a rhai o'r ystyriaethau amgylcheddol, moesegol a diogelwch o weithio gyda phridd a phigment 'ffrwd wastraff'.
Yn y prynhawn, bydd amser i roi cynnig ar ddeunyddiau celf sy'n defnyddio pigment o Big Pit a chreu eich delweddau eich hun wedi'u hysbrydoli gan ein taith. Byddwn ni’n defnyddio lluniau, mapiau a gwybodaeth ddaearegol leol i’n hysbrydoli.
Mae'r gweithdy'n addas i unrhyw un sydd â diddordeb creu deunyddiau celf a does dim angen unrhyw brofiad blaenorol. Bydd angen i chi allu cerdded am 1.5 awr. Fyddwn ni ddim yn cerdded yn rhy gyflym a bydd cyfle i stopio a gorffwys. Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi eisiau gwneud yr holl gerdded sydd yn y gweithdy, mae croeso i chi aros ar y safle ac edrych o gwmpas Big Pit yn lle.
Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol: Iaith:Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Oedran:
Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod dros 18 oed.
Hygyrchedd:Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd
Lliwio naturiol
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd