Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Neidiwch i mewn i hwyl a sbri'r Pasg ar Stryd Fawr Draddodiadol y Cymoedd, gyda gweithdy Addysg i'r Teulu am ddim.
Mwynhewch weithgareddau chwarae hamddenol, gan gynnwys chwarae rôl a gwisgo i fyny fel trigolion cymunedau glofaol Cymru. Crëwch eich clustiau cwningen eich hun, cyn dilyn ein Llwybr Pasg am ddim ar hyd Stryd Fawr Draddodiadol y Cymoedd i ddysgu mwy am fywyd uwchben y ddaear.
Perffaith ar gyfer dysgwyr ifanc chwilfrydig a'u hoedolion!
Llwybr Pasg – Stryd Fawr Draddodiadol y Cymoedd
Ar agor yn dyddiol 9.30yb - 5yp Mynediad olaf: 4pm
Teithiau dan ddaear: 10yb - 3yp
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Gwybodaeth cyffredinol a gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl
Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Wedi ysbrydoli gan y profiad tanddaearol a'n casgliadau, bydd ein Siop Anrhegion ar agor yn ystod eich ymweliad, gyda detholiad o nwyddau ac anrhegion, wedi’u creu yn arbennig, ar gael i brynu.
Mae ein Siop Goffi ar agor yn dyddiol, 10am-4pm, ac yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa, ond gofynnwn i chi gymryd eich sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda, a helpwch ni i gadw Big Pit yn daclus.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd