Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ydych chi’n bwriadu ymweld â’r amgueddfa gyda’ch ci?
Dyma ambell beth i’w cofio wrth ymweld gyda’ch ci:
1) Tennyn byr
Mae croeso i chi grwydro safle’r amgueddfa gyda’ch ci ar dennyn byr (sydd ddim yn ymestyn).
2) Y Daith Danddaearol
Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid o gwbl, gan gynnwys cŵn cymorth, o dan y ddaear.
3) Yr Ystafell Aros, Baddonau Pen Pwll, Brenin Glo: Y Profiad Mwyngloddio ac Adeiladau eraill
Tra bod croeso i gŵn grwydo’r safle, ni chaniateir iddynt fynd i mewn i unrhyw adeilad na man arlwyo (ac eithrio cŵn cymorth).
4) Codwch faw eich ci
Helpwch ni i gadw'r amgueddfa'n lân drwy godi baw eich ci a chael gwared ar unrhyw wastraff ar ôl i chi adael y safle.
Os na wnewch chi, gofynnir i chi adael y safle ar unwaith.
5) Byddwch yn ystyriol o eraill
Mae llawer o bobl wrth eu bodd â chŵn, ond mae rhai ymwelwyr yn eu hofni. Cadwch eich cŵn yn agos atoch chi a pheidiwch â’u gadael i redeg at, neu neidio ar, ymwelwyr eraill.
Gofynnir i chi adael y safle ar unwaith os ystyrir bod ymddygiad eich ci yn beryglus neu allan o reolaeth.