Tocynnau Job-a-Mas

Taith dan Ddaear

Mae’r Daith Dan Ddaear Big Pit, yn brofiad unigryw a hynod boblogaidd.

Mae 'Job-A-Mas' yn deillio o derm gâi ei ddefnyddio yn y diwydiant glo i gyfeirio at dasg oedd yn cael blaenoriaeth a fyddai'n cael ei wneud yn gyflym ac yn effeithiol ar amser penodol.

Mae tocynnau ar gyfer y Daith Dan Ddaear ar gael i'w brynu ymlaen llaw gyda thocyn Job-A-Mas £8 sydd yn rhoi slot amser i bob person NEU, drwy brynu tocyn am £5 ar ddiwrnod eich ymweliad pan fyddwch yn cyrraedd yr Amgueddfa.*

Mae'r tocynnau sydd ar gael i'w prynu ar y diwrnod yn gyfyngedig o ran nifer, ddim yn gwarantu slot amser ac efallai bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

Mae tocynnau ar gyfer y diwrnod ar gael bob dydd i'r rheiny sy’n cyrraedd heb docynnau Job-A-Mas ymlaen llaw ac maent yn amodol ar argaeledd.

Mae’n rhaid archebu tocynnau Job-A-Mas ymlaen llaw ac ni ellir eu prynu ar ddiwrnod eich ymweliad.

Mae mynediad i'r Amgueddfa yn parhau i fod yn rhad ac am ddim.

Parcio £5.

*Mae gostyngiad agored ar gael ar gyfer tocynnau ar y diwrnod yn unig ac nid yw ar gael ar gyfer tocynnau Job-A-Mas. Mae ein tocyn gostyngiad agored yn fersiwn mwy hygyrch o’n tocynnau gostyngiad blaenorol. Dyma’r tocyn i chi os fyddech chi fel arfer yn gymwys am ostyngiad. Does dim angen i chi ddangos ID.

Os na allwch chi fforddio ein tocynnau arferol ar hyn o bryd, gallwch ddewis y tocyn gostyngiad agored heb unrhyw gwestiynau. .

Prynu tocynnau Job-a-Mas

Archeb grŵp

Telerau ac Amodau