Telerau ac Amodau Job-a-Mas
Mae'r telerau hyn yn berthnasol i werthiant tocynnau Job-a-Mas yn unig.
Trwy brynu Tocyn, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau hyn.
Mae tocyn Job-a-Mas yn caniatáu i ymwelwyr ymuno â'r ciw ar gyfer Teithiau Danddaearol ar amser penodol. Codir tâl am Deithiau Tanddaearol rhwng 1 Hydref a 3 Tachwedd 2024.
Sut i Brynu Tocynnau
Prynir tocynnau ar-lein.
Gall grwpiau o 10 neu fwy brynu tocynnau ymlaen llaw trwy gysylltu â Big Pit ar 029 2057 3650.
Dim ond tocynnau a brynwyd yn uniongyrchol oddi wrthym ni sy’n ddilys. Nid yw tocynnau a brynwyd gan drydydd parti heb awdurdod, gan gynnwys safleoedd gwerthu ar-lein, yn ddilys.
Wrth gyrraedd Big Pit, ewch â’ch cadarnhad archeb i ardal y dderbynfa. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb os na fyddwch chi wedi dod â'ch cadarnhad ysgrifenedig gyda chi neu os na fyddwch chi wedi derbyn y cadarnhad oherwydd methiant eich darparwr rhyngrwyd, gwasanaeth dosbarthu e-bost neu unrhyw wasanaeth cyflenwi trydydd parti arall.
Amser Cyrraedd ar y Tocyn
Bydd eich tocyn yn nodi amser cyrraedd ar gyfer ardal aros Job-a-Mas. Cyrhaeddwch o leiaf 15 munud cyn yr amser a nodir ar eich tocyn. Bydd hyn yn gadael digon o amser i chi gael eich cofrestru yn y siop a cherdded i fyny i fynediad y daith.
Ni fydd modd i ni roi mynediad i chi os fyddwch chi’n cyrraedd yn hwyr. Os byddwch yn cyrraedd ar ôl diwedd yr Amser Cyrraedd a nodir ar eich Tocyn, ni chewch ad-daliad.
Bydd Big Pit ond yn ad-dalu tocynnau yn achos oedi sy'n arwain at gau'r man dan ddaear dros dro am resymau technegol.
Os ydych yn methu’r amser cyrraedd efallai y bydd modd dyrannu amser diweddarach ar yr un diwrnod ond mae hyn yn dibynnu os oes llefydd ar gael. Ar ddiwrnodau prysur efallai na fydd hyn yn bosibl. Caiff ymwelwyr wybodaeth ynghylch hyn yn Nerbynfa Big Pit.
Ni chewch ailwerthu tocynnau ac nid ydynt yn drosglwyddadwy.
Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio amser cyrraedd tocyn unwaith y bydd wedi’i roi i chi ond byddwn yn ymdrechu i roi gwybod i chi cyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol bod angen gwneud hynny.
Pris Tocynnau
Mae pob tocyn Job-a-Mas yn costio £5 y pen.
Nid oes consesiynau ar gael.
Rhaid i unrhyw berson dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Rhaid i ymwelwyr fod yn uwch na 1 metr o daldra i fynd ar y Daith Dan Ddaear.
Archeb Grŵp
Dim ond partïon o mwy na 10 all archebu tocynnau grŵp ymlaen llaw.
Gellir gwneud archeb grŵp trwy gysylltu â Big Pit ar 029 2057 3650.
Rhaid talu am archeb grŵp ymlaen llaw.
Rhaid gwneud archeb grŵp o leiaf 24 awr cyn yr ymweliad.
Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio archeb unwaith y bydd wedi’i chadarnhau ond byddwn yn ymdrechu i roi gwybod i chi cyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol bod angen gwneud hyn.
Nodir pris tocynnau mewn punnoedd y DU ac mae’n cynnwys TAW.
Tocynnau – Telerau Cyffredinol
Mae un Tocyn Job-a-Mas yn rhoi mynediad i un person i Daith Dan Ddaear Big Pit ar un achlysur. Unwaith y byddwch wedi gadael y Daith Dan Ddaear, bydd angen i chi brynu Tocyn Job-a-Mas newydd i gael mynediad eto i'r Daith Dan Ddaear trwy giw Job-a-Mas.
Mae tocynnau yn parhau yn eiddo i ni ar bob adeg. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn am ddychwelyd y tocynnau ar unwaith ar unrhyw adeg ac i wrthod mynediad i’r Daith Dan Ddaear neu orfodi i adael, unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â thelerau a rheoliadau Big Pit.
Ni ellir ad-dalu tocynnau Job-a-Mas, nid ydynt yn drosglwyddadwy a byddant yn annilys os cânt eu newid. Ni fydd tocynnau yr ydym ni'n tybio'n rhesymol eu bod wedi’u trosglwyddo neu eu newid yn cael eu hanrhydeddu. Ni chaniateir eu hailwerthu. Bydd unrhyw ailwerthu o'r fath yn golygu bod y tocyn yn annilys.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn penderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr i roi tocynnau dan gynigion hyrwyddo arbennig ("Tocynnau Hyrwyddo Job-a-Mas") ond bydd Tocynnau Hyrwyddo Job-a-Mas ar gael yn amodol ar argaeledd ac yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau sy'n effeithio ar y cynnig hyrwyddo penodol.
Canslo Tocyn
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo tocyn Job-a-Mas a byddwn yn ymdrechu i roi gwybod i chi cyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol bod angen gwneud hyn. Mewn amgylchiadau o'r fath, rhoddir ad-daliad llawn.
Plant
Rhaid i blant (o dan 16 oed) fod yng nghwmni rhywun 16 oed neu hŷn tra yn Big Pit.
Rhaid i’r plant hyn aros o dan reolaeth a goruchwyliaeth person 16 oed neu hŷn bob amser.
Eich Ymddygiad
Tra byddwch chi ac ymwelwyr eraill yn Big Pit, mae’n rhaid i chi a'ch gwesteion gydymffurfio â holl gyfarwyddiadau ein staff, hysbysiadau, cyhoeddiadau a pholisïau iechyd a diogelwch perthnasol sydd ar gael i chi.
Bydd torri unrhyw un o'r telerau hyn neu unrhyw ymddygiad annerbyniol gennych chi neu eich gwesteion sy'n debygol o achosi niwed, niwsans neu anaf i unrhyw ymwelydd arall neu aelod o'n staff neu i Big Pit ei hun yn golygu y bydd gan staff Big Pit yr hawl i’ch symud yn syth o Big Pit.
Bydd gennym yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw ymwelydd o Big Pit neu ei orfodi i adael os credwn y gallai rhoi mynediad i chi beri risg i'n heiddo, diogelwch pobl eraill a/neu effeithio ar fwynhad eraill yn Big Pit.
Fe’ch gwaherddir yn benodol rhag copïo, atgynhyrchu neu ailgyhoeddi unrhyw ran o'r arddangosfeydd neu'r dehongli yn Big Pit. Mae'n drosedd copïo neu geisio copïo deunyddiau sydd wedi’u diogelu gan hawlfraint sy’n cael eu harddangos yn Big Pit.
Diogelwch
Er mwyn sicrhau diogelwch, mae’n bosibl y gofynnir i chi gytuno i chwiliad o'ch person neu eich eiddo. Gwrthodir mynediad neu gorfodir i adael Big Pit unrhyw un sy'n gwrthod neu lle canfyddir deunyddiau y credwn sy’n beryglus neu'n anaddas.
Mae maes parcio ar gael yn Big Pit am gost o £5 y dydd. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn anabl a beiciau modur.
Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, lladrad na niwed i unrhyw gerbyd (neu ei gynnwys) sydd wedi parcio ar ein heiddo.
Gwaherddir parcio ar y ffyrdd o gwmpas Big Pit y tu allan i'r maes parcio dynodedig.
Amrwyiad
Mae gennym yr hawl i ddiwygio ac addasu'r telerau hyn o bryd i'w gilydd trwy roi gwybod i chi neu gyhoeddi telerau wedi’u diweddaru ar y wefan. Byddwch yn ddarostyngedig i'r telerau sydd mewn grym ar yr adeg yr ydych wedi prynu tocynnau Job-a-Mas. Efallai y byddwch yn dymuno argraffu copi o'r telerau hyn gyda stamp dyddiad er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
Hawliau Trydydd Parti
Ni fydd gan berson nad yw'n barti i'r telerau unrhyw hawliau o dan neu mewn cysylltiad â hwy o dan y Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.
Y Gyfraith a'r Awdurdodaeth
Caiff y Telerau hyn eu rheoli gan gyfraith Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o Delerau o'r fath, neu'n gysylltiedig â hwynt, yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
Manylion Cyswllt
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Blaenafon
Torfaen
NP4 9XP
E-bost: bigpit@amgueddfacymru.ac.uk
Ffôn: 029 2057 3650