Arddangos Archif Dinistr mewn Celf Ifor Davies:

Astudiaeth o’r broses guradurol o gyflwyno celfyddyd berfformio hanesyddol yn yr Amgueddfa, drwy arsylwi, astudiaethau achos ac ymarfer

Ymchwil gan Judit Bodor

Project ymchwil doethurol ar y cyd yw hwn rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth, dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a than oruchwyliaeth yr Athro Heike Roms (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu) a Dr Jacqueline Yallop (Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) o Brifysgol Aberystwyth a Nicholas Thornton (Pennaeth Celf Fodern a Chyfoes Amgueddfa Cymru).

Mae’r ymchwiliad ymarferol hwn i arferion curadurol cyfoes yn edrych ar fywyd perfformiad hanesyddol wedi iddo gyrraedd yr Amgueddfa. Wrth ganolbwyntio’n bennaf ar y gwaith o ail-ddehongli ac adfer mae’n edrych ar sut y bydd gwaith curadu, bwriad yr artist a chyd-destun y sefydliad yn cyfuno i gyflwyno arddangosfeydd mewn fframwaith gofod-amser dros-dro. O fewn y cyd-destun hwn y caiff perfformiadau hanesyddol eu profi mewn amgueddfeydd. Mae’r ymchwil yn cyfuno curadu-fel-ymchwil wrth ddatblygu Ffrwydrad Tawel: Ifor Davies a Dinistr Creadigol â dadansoddiadau o theori ac arferion presennol Astudiaethau Perfformio, y Cyfryngau a Churadu.

Ymhlith canlyniadau’r ymchwil mae’r cyflwyniad o berfformiad Ifor Davies o 1968, Adam on St Agnes’ Eve, wedi’i gyflwyno fel gosodwaith amlgyfrwng ac wedi’i ail-gyflwyno gan artist arall.

Caiff y canlyniadau yma, ac agweddau eraill o’r arddangosfa, eu trafod mewn seminarau dan y teitl Exhibition Matters. Curadwyd y gyfres gan Judit Bodor er mwyn myfyrio ar yr arddangosfa ac edrych ar faterion ehangach cyflwyno a chadw perfformiadau hanesyddol, gan gynnwys cwestiynau dilysrwydd, awduriaeth, materoliaeth ac archifau.

Seminarau

Cyfres o seminarau yn canolbwyntio ar sut y caiff gweithiau celf eu gweddnewid wrth gyrraedd yr Amgueddfa. Mae’n ymdrin â’r arddangosfa fel proses gydweithredol rhwng ymchwilwyr, staff amgueddfa a’r artist ac yn canolbwyntio’n benodol ar heriau cadwraeth, curadu a chynnal elfen ddinistriol celf Ifor, a hynny bron i 50 mlynedd wedi eu creu. Mae’r seminarau yn addas i weithwyr yn y maes ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn materoliaeth, dilysrwydd ac awduriaeth mewn celf gyfoes ac mewn amgueddfeydd.

Curadur, ymchwilydd ac addysgwr annibynnol yw Judit Bodor, sy’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae’n gweithio gydag archifdai, orielau, amgueddfeydd a phrifysgolion ac wedi gweithio yn Artpool (Budapest), East Street Arts (Leeds), Coleg Celfyddydau Dartington a Phrifysgol York St John. Mae’n arbenigo mewn archifau artistiaid, gwaith cydweithredol, curadu digwyddiadau a chyfnodau preswyl. Ymhlith ei phrojectau diweddar mae Studio Jamming gyda Ganghut (2014), Three Points of Contact (GSA Exhibitions a The Exchange 2014) a Market of Hidden Labours gyda John Newling (2013). Astudiodd Judit hanes celf a churadu gan raddio o Brifysgol Eötvös Loránd a Choleg Celfyddydau Dartington. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar broject ymchwil doethuriaeth dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar guradu Ifor Davies a Dinistr Celf yn Amgueddfa Cymru ar gyfer Prifysgol Aberystwyth.