Crochenwaith a phorslen Cymru

Gweithfeydd Tsieina Abertawe, pâr o fasys sbils wedi’u darlunio gan Mary Moggridge, 1819

Abertawe, pâr o fasys sbils wedi’u darlunio gan Mary Moggridge, 1819

Crochenwaith Cambria, Abertawe, jwg o briddwaith wedi’i ddarlunio gan Thomas Pardoe

Abertawe, jwg o briddwaith wedi’i ddarlunio gan Thomas Pardoe, tua 1805

Ar ôl ei sefydlu yn Abertawe ym 1764 aeth Crochendy'r Cambrian yn llwyddiant drwy ddynwared y crochenwaith poblogaidd, safonol gan Josiah Wedgwood, Swydd Stafford.

Roedd y crochenwaith hwn yn cynnwys hufenwaith, gwaith basalt du a chrochenwaith a beintiwyd yn gain gan artistiaid megis Thomas Pardoe. Cadwyd safonau uchel wedi 1802, pan gymrodd Lewis Weston Dillwyn awenau'r crochendy.

Mae'r porslen a wnaethpwyd 1813-26 yn Nantgarw ger Caerdydd ac yng Nghrochendy'r Cambrian yn Abertawe ymysg y prydferthaf a gynhyrchwyd erioed.

William Billingsley, peintiwr porslen hyfforddedig, oedd y dyn cyfrifol amdano. Yn y cyfnod 1814-17 bu'n cynorthwyo Dillwyn i wneud porslen yn Abertawe, cyn dychwelyd i Nantgarw ym 1818 i gynhyrchu ei borslen ei hun.

Cafodd peth o borslen Abertawe a'r rhan fwyaf o borslen Nantgarw ei anfon i Lundain i'w addurno a'i werthu i gyfoethogion y ddinas. Cafodd y gweddill ei addurno'n lleol nes 1826 yn Abertawe a 1823 yn Nantgarw.

Cafodd crochenwaith ei wneud yn Abertawe yng Nghrochendy Morgannwg (1813-38) ac yng Nghrochendy'r Cambrian nes iddo gau ym 1870. Crochendy De Cymru yn Llanelli oedd yr unig un o bwys ar ôl yn y de nes ei gau yntau ym 1922.

Mae stori crochenwaith a phorslen Cymru yn cael ei hadrodd yn Oriel Joseph. Mae safle Gweithfeydd Tsieni Nantgarw bellach yn amgueddfa, ychydig filltiroedd i'r gogledd o Gaerdydd.