Digwyddiadau

Arddangosfa: Ffosilau o’r Gors

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
18 Mai 2019 – 2 Mawrth 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Yn bell, bell yn ôl… cyn bod pobl… cyn bod deinosoriaid… roedd y byd yn wahanol iawn .

Bydd yr arddangosfa newydd hon yn rhoi cip i ni ar fywyd 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd cors drofannol anferth yn gorchuddio gogledd Cymru. Roedd hi’n gors o blanhigion a thrychfilod anferth, mellt a tharanau a llifogydd.

Mae ffosilau gwych yn datgelu tipyn am y gwlypdiroedd trofannol yma. Dewch i weld gweddillion planhigion rhyfedd oedd yn byw filiynau o flynyddoedd cyn i flodau a ffrwythau esblygu. Roedd yr anifeiliaid cynhanesyddol hefyd yn wahanol iawn i’r rhai sy’n byw heddiw. Pa greaduriaid gwych allwch chi eu gweld yn cuddio yn y gors?

Daw rhai o’r ffosilau, gan gynnwys y Stigmaria 3D anferth sy’n ganolbwynt yr arddangosfa, o’r drysorfa fyd-enwog yn Brymbo, ger Wrecsam. Peth prin yw canfod gweddillion 3D mor fawr, ac mae planhigion ffosil o leoliadau eraill yn aml yn ddarnau sydd wedi cael eu cludo ar hyd nentydd y gors. Ond mae ffosilau Brymbo yn dangos yn union sut oedd rhai o’r planhigion anferth yma’n tyfu.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu am yr arbenigwyr fu’n datrys hanes bywydau’r planhigion cynhanesyddol, a deall y cysylltiad rhwng y gors ffosilau â phroblemau tanwydd a newid hinsawdd heddiw.

Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa:

Cyflwynir yr arddangosfa ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo (www.brymboheritage.co.uk), Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Brymbo Developments Ltd., JPDS Creative Ltd., a Heiko Achilles o phoenixgrafik.de.

Digwyddiadau