Digwyddiadau

Arddangosfa: Datgelu Portread Monsieur Jules Dejouy gan Édouard Manet

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
17 Ionawr 2023 – 10 Ionawr 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn falch o gyflwyno un o bortreadau hwyr pwysicaf yr artist enwog Édouard Manet. Mae’r portread hudol hwn, a grëwyd ar anterth gyrfa Manet, yn darlunio ei gefnder Jules Dejouy, cyfreithiwr llwyddiannus a ffigwr allweddol ym mywyd yr artist.

Y Stori y Tu Ôl i'r Peintiad

Roedd Édouard Manet yn ffigwr chwyldroadol ym myd celf Ffrainc yn y 19eg ganrif. Roedd ei heriad beiddgar o dechnegau peintio clasurol a'i ddewis i ddarlunio bywyd modern yn ei wneud yn artist hollbwysig yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth.

Ar ôl i dad Manet farw ym 1862, cymerodd cefnder yr artist Jules Dejouy rôl ‘prif gynghorwr’ yn ei fywyd. Rhoddodd Dejouy gefnogaeth ariannol i'w gefnder a gadawodd i Manet ddefnyddio ei dŷ yng nghefn gwlad ger Paris fel canolfan ar gyfer ymweld ag artistiaid eraill, gan gynnwys Claude Monet.

Ym 1884, y flwyddyn y bu farw'r artist, cynorthwyodd Dejouy gyda threfnu arddangosfa o waith Manet yn yr École des Beaux-Arts ym Mharis, lle dangoswyd y portread hynod hwn.

Cadwraeth a Dadorchuddio

Ar ôl mwy na 90 mlynedd mewn dwylo preifat, daeth portread Manet o Jules Dejouy i feddiant Amgueddfa Cymru yn 2019.

Diolch i gefnogaeth gan Gronfa Adfer Amgueddfeydd TEFAF, Sefydliad Finnis Scott a Chyfeillion Amgueddfa Cymru, mae’r gwaith bellach wedi’i adfer gan arbenigwyr cadwraeth Amgueddfa Cymru.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i archwilio byd hynod ddiddorol Manet a phrofi'r Portread o Monsieur Jules Dejouy wedi'i adfer. Ymwelwch â'n harddangosfa heddiw!

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad


 

Darganfyddwch fwy

Cadwraeth bortread Jules Dejouy gan Manet

Ffilm timelapse o'r cadwraeth Manet


 

Uchafbwyntiau'r Oriel


 

Mwy i'w bori


 

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau