Priodasau

Lleoliad priodas yng ngalon Caerdydd.

Mae'r Amgueddfa Genedlaethol yn cynnig neuaddau crand ar gyfer seremonïau moethus, ag orielau celf unigryw a stafelloedd hynaws ar gyfer dathliadau llai.

Gofalu am y manylion

Rydym ni wedi bod yn edrych ar ôl casgliad celf prydferthaf Cymru ers dros ganrif: rydym wedi hen arfer bod yn ofalus, ac yn greadigol.

Lluniau Priodas unigryw

Monet, Renoir, Rodin - cefndir hyfryd ar gyfer eich lluniau ffurfiol (a hunlun neu dri)

Mewn dwylo gofalus

Siaradwch a ni i ddysgu mwy am ein prydau sydd wedi'u paratoi â chynhwysion Cymreig, a'u cyflwyno'n arbennig.

Rydym ni hefyd yn falch o weithio gyda Ragasaan, Clay Oven, Eastern Cuisine a Veer.

Curadu eich diwrnod mawr

O gerfluniau clasurol a meistri'r Dadeni, i weithiau modern lliwgar a gosodwaith cain: pan fyddwch yn llogi ein ystafelloed, rydych chi'n cefnogi'n gwaith fel elusen, yn gofalu am drysorau Cymru.

Ymweld

Dewch i ymweld unrhyw bryd yn ystod oriau agor - cewch ddod i mewn am ddim.

Cysylltwch â'r Tîm Priodasau am daith dywys, sy'n cynnwys ystafelloedd nad sydd ar agor i'r cyhoedd fel arfer.

Priodasau Gaeaf

O fewn tafliad carreg i'r gofrestrfa yn Neuadd y Ddinas, fe gewch ddigonedd o gyfleon ar gyfer ffotograffau priodas hardd, beth bynnag fo'r tywydd.

Mae ein Pecynnau Priodas Aeaf yn gystadleuol iawn, ac yn addas ar gyfer seremonïau, yn ogystal â dathliadau sy'n dilyn seremonïau yn Neuadd y Ddinas.