Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dwedai hen ŵr llwyd o'r gornel:
'Gan fy nhad mi glywais chwedel;
A chan ei daid y clywsai yntau,
Ac ar ei ôl mi gofiais innau.'
('Baled yr Hen Ŵr o'r Coed', 18g.)

Fel y bu yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog, o'r chweched ganrif, o ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth Gymraeg, felly bu bri arbennig hefyd ar adrodd storïau ar lafar. Y mae'n wir mai gwlad fechan, yn ddaearyddol, yw Cymru, rhyw 8017 milltir sgwâr wedi'i lleoli ar ochr orllewinol Prydain, gydag ychydig llai na thair miliwn o boblogaeth. Serch hynny, fe siaradwyd iaith frodorol y wlad, sef y Gymraeg (un o'r ieithoedd Celtaidd a berthyn i'r dosbarth Indo-Ewropeaidd) ers y chweched ganrif. Hi yw'r iaith fyw hynaf yn Ewrop heddiw ac y mae 21% o'r boblogaeth yn parhau i'w siarad a llawer mwy â chrap arni.

.

Drwy gyfrwng yr iaith hon y cyflwynwyd amrywiaeth mawr o storïau a thraddodiadau gwerin ar lafar yn ddi-dor o gyfnod cynnar iawn hyd heddiw, a chofnodwyd hefyd, o leiaf o'r nawfed ganrif, doreth o ddeunydd mewn llawysgrif a phrint. Mewn Cymraeg Canol rhwng yr unfed ganrif ar ddeg a'r drydedd ganrif ar ddeg cyfansoddwyd yr un chwedl ar ddeg a adwaenir bellach fel y Mabinogion, a disgrifiwyd y gwaith hwn gan yr Athrawon Gwyn a Thomas Jones fel 'cynnyrch godidocaf yr athrylith Geltaidd a champwaith ein llên Geltaidd gynnar' (The Mabinogion, Dent, 1949, t. ix). Wedi dyddiau'r Mabinogion, ni bu yng Nghymru, hyd y gwyddom, gyfarwyddiaid neu storïwyr proffesiynol yn meddu ar gynhysgaeth helaeth o chwedlau byd hud a lledrith ac yn adrodd hanesion am dduwiau a duwiesau cynnar ac arwyr yr hen oesoedd. Eto, er pob newid ac addasu a fu ar gynnwys a swyddogaeth y chwedlau (er enghraifft, y pwys ar foesoli yn sgîl y diwygiadau crefyddol o'r ddeunawfed ganrif ymlaen), parhaodd y traddodiad o adrodd storïau yng Nghymru yn rhyfeddol o fyw, gyda'r prif bwyslais erbyn hyn ar storïau digri a hanesion ac anecdotau byrion sy'n adlewyrchu bywyd cyfoes.

Yn dilyn, cyflwynir detholiad o storïau gwerin o blith y casgliadau helaeth sydd yn Archif Sain yn Sain Ffagan, storïau yn cael eu hadrodd gan wŷr a gwragedd hwnt ac yma yng Nghymru. Gydag ambell eithriad, nid storïwyr gweithredol mohonynt â'r storïau'n fyw iawn yn y cof ac yn cael eu hail-adrodd yn gyson. Yn hytrach, gan amlaf, cynheiliaid goddefol y stori werin ydynt, personau yn 'dwyn y storïau i gof', wedi proc neu ddau a chlust i wrando. Weithiau cyflwynir storïau nad ydynt wedi cael eu hadrodd cyn hynny 'ers blynyddoedd maith' ac, yn naturiol, ar brydiau, fe adlewyrchir y bwlch hwn yn natur y traddodi - yn yr arddull a'r amseriad a'r ymgais i gofio'r stori.

.

Recordiwyd y storïau yng nghartrefi'r siaradwyr, a dymuna Amgueddfa Werin Cymru ddiolch yn ddiffuant iawn iddynt hwy a'u teuluoedd am bob croeso a chydweithrediad bryd hynny ac am eu parodrwydd yn awr i ganiatau i'r Amgueddfa gyflwyno'r storïau ar y we.

Ceisiwyd cynnwys ystod mor eang ag oedd bosibl o storïau gwerin i gynrychioli natur y traddodiad llafar storïol yng Nghymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ymhlith yr eitemau a ddetholwyd, felly, ceir storïau hud a lledrith cydwladol (märchen); chwedlau mwy lleol eu natur (sagen) sy'n adlewyrchu cred dyn yn y paranormal a'r goruwchnaturiol, megis rhagarwyddion angau, a'i ymwneud â bodau chwedlonol, mytholegol, megis y Tylwyth Teg a'r Diafol; storïau patrymog; storïau arbennig i blant; storïau digri, megis storïau celwydd golau; ac anecdotau a thraddodiadau sy'n ddrych o hanes Cymru a hynt a helynt dyn yn ei gymdeithas.

Cynhwysir recordiad sain o'r storïwyr yn adrodd eu storïau; testun o bob stori (wedi'i olygu gyn lleied ag oedd raid); cyfieithiad i'r Saesneg; a nodiadau cefndirol. Er mwyn gwerthfawrogi'r storïau yn eu cyd-destun cydwladol cyfeiriwyd hefyd, pan fo hynny'n berthnasol, at deipiau a motifau. Ar gyfer teipiau storïau gwerin mwyaf cydwladol eu natur (rhifau Aarne-Thompson (A-T) 1-2499) defnyddiwyd dosbarthiad y ddau ysgolhaig Antti Aarne, o'r Ffindir, a Stith Thompson, o America, The Types of the Folktale, Foklore Fellows' Communications, rhif 184, ail arg. diwygiedig, Helsinki, 1961. Ar gyfer chwedlau mwy lleol eu natur, ond sydd i'w cael hefyd mewn gwledydd eraill (rhifau ML 3000-8025), defnyddiwyd dosbarthiad yr ysgolhaig Norwyaidd, Reidar Th Christiansen. Gw. The Migratory Legends. FF Communications, rhif 175, Helsinki, 1958. Pan oedd teipiau pendant o chwedlau lleol (sagen) ar gael yng Nghymru, ond heb eu cynnwys yn nosbarthiad Christiansen, ychwanegwyd y byrfodd (C) ar ôl y rhif. Ar gyfer motifau'r storïau defnyddiwyd dosbarthiad Stith Thompson, Motif - Index of Folk Literature, cyf. 1-6, arg. Diwygiedig, Rosenkilde & Bagger, Copenhagen, 1955.

.

O bryd i'w gilydd cyfeirir yn y nodiadau cefndir at ddau gyhoeddiad sy'n cynnwys fersiynau o storïau cyfatebol o Loegr ac America, sef Katharine M Briggs, A Dictionary of British Folk Tales in the English Language, Routledge and Kegan Paul, Llundain; rhan A, cyf. 1 - 2, 1970; rhan B, cyf. 1 - 2, 1971; ac Ernest W Baughman, A Type and Motif - Index of the Folktales of England and North America, Mouton, s-Gravenhage, 1966.

Robin Gwyndaf

Nôl i Hafan Storiwyr