Ganed yng Nghae Tudur, fferm fechan fynyddig ym Mlaen Caron, ger Tregaron. Bu'n Ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri, 1923-1938, yna'n Arolygwr Ysgolion (gyda gofal arbennig am y Gymraeg), 1938-58. Yr oedd yn adnabyddus fel cynhyrchydd dramâu a rhaglenni nodwedd ac am ei dawn lafar i ddifyrru cynulleidfaoedd ar lwyfan ac ar y radio.