Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrGwas Fferm yn Gweld Ysbryd John Morris, Pen-crug
Thomas Davies (1901-82)
Wel, odd 'na rai yn credu yn ein ardal ni mewn ysbrydion. A wy'n gwybod y gallwn i ddibynnu ar rai ohonyn nhw, 'u bod nhw'n dweud y gwir. Ych chi am i fi ddweud yr hanesyn yma am John Harris wrthoch chi?
Odd dwy fferm yn ymyl 'i gilydd, Pen-rallt a Blaenbrân. Pen-rallt yn ffarm fawr. Ac odd John Harris yn was yn Pen-rallt 'ma. Oedd Blaenbrân y ffarm nesa ati, ac roedd John yn mynd adre bob nos bron i weld 'i dad a'i fam, tua saith o'r gloch yma. Ac oedd e'n mynd adre nawr rhyw noson, ac odd 'na fwthyn i gâl ar ochor y ffordd, reit ar ochor y ffordd, o'r enw Pen-crug. Yno roedd 'na ddyn yn byw o'r enw John Morris. Ac roedd e'n wael iawn ar y pryd. Wel, pan gyrhaeddodd John Harris gartre i Blaenbrân, wedodd e wrtho'i dad a'i fam:
'Ma John Morris yn codi, 'te'.
'Nadi, siŵr.'
'Odi, wi wedi'i weld e.'
Fe aeth y tad a'r fam yn sifil.
'Do, gweles i e mâs ar yr hewl, a cot fawr amdano, a het ar 'i ben e, a ffon. Weles i e.'
Wel, wydden nhw ddim beth i ddweud. Ethon draw trannoth i ofyn shwd odd e. O, odd e ar ben. Ac odd e'n marw'r nosweth 'ny. A ma hynna'n hollol wir, y stori 'na.
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 2625. Recordiwyd 18.xi.1969.Nodiadau
Clywodd Thomas Davies yr hanes hwn gyntaf gan rieni John Harris, y gwas fferm:
'Odd hi'n amser rhyfel. Ôn i tua un ar bymtheg, deudwch, rhywbeth felly. A nawr, fues i'n galw gyda brawd John Harris ryw dri mis yn ôl, a fues i'n cael cinio gydag e 'na, Tom. A fuon yn sôn ambiti hyn. A wedodd:
'Ma hynna'n hollol wir. Ych chi'n iawn. Odi, odi, mae'n hollol wir.' '
Roedd yr hen ŵr yn cerdded o'r ffordd, mewn trw'r giât, i'r tŷ' pan welodd y gwas fferm ef. Roedd rhieni Thomas Davies yn 'meddwl bod e'n beth rhyfedd iawn. Ac ôn nhw'n 'i gredu e. Dodd dim dadl. Odd hwnna - odd e'n wir. Odd y bachgen wedi 'i weld e 'i hun. Odd e wedi'i weld e. Ac odd e'n fachgen allech chi ddibynnu arno.'
Teipiau
ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |
Motifs