Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrGŵr Bonheddig yn Cynorthwyo Dau Golier i Rannu Tair Sofren Felen
Thomas Davies (1901-82)
Dyn o'r enw Ben Griffiths, Waunfawr, ddwedodd y stori yma wrtho i. Odd e'n dweud bod dou golier wedi bod yn gweithio tipyn o ecstra, er mwyn ennill ecstra arian ryw wythnos. Ac odd y ddau rhyngddyn nhw wedi câl tair punt yn fwy nag arfer. Tair sofren felen. A wedi mynd allan i'r wlad dipyn nawr, i ryw le unig, dyma nhw'n mynd i rannu'r arian. 'Ma un yn trio'u rhannu nhw. Mae'n dweud:
'Un i fi, un i ti, un i finne. O, na, neith 'na mo'r tro.'
Y llall yn trio:
'Un i fi, un i ti, un i finne.'
Dim. Odd ddim yn gwithio. Welon nhw ŵr bonheddig yn dod ar gefen ceffyl. A 'ma nhw'n 'i stopio fe. 'Ma nhw'n dweud:
'Esgusodwch ni, syr, a newch chi'n helpu ni?'
'Y, gwnaf. Be sy'n bod?'
'I ni'n ffilu rhannu'r tair punt 'ma rhyngon ni'.
'O, wna i 'na ichi nawr. Un i chi, un i chithe ac un i finne.'
'Diolch yn fawr syr.'
Ac wedi iddo fynd:
'Dyna beth rhyfedd yw bod yn sgoler', medde un wrth y llall. Ie.
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 2625. Recordiwyd 18.xi.1969.Nodiadau
Clywodd Thomas Davies y stori hon pan oedd tua deunaw oed gan Ben Griffiths, amaethwr, Waunfawr, Pen-boyr.
'Ôn i'n mynd i'r eglwys, i chi'n gweld, ac odd dwy filltir o ffordd 'da ni. Ac odd y bobol odd yn byw ddim ymhell o'r eglws fysen yn gofyn i chi fynd fyny i ginio 'na, fel odd yn beth cyffredin iawn. Ac at y Griffiths 'ma ês i y dwyrnod 'ny. A wy'n cofio iddo ddweud y stori wrtho i wrth fynd adre.'
Teipiau
AT 1539 A (C) | Storau am glyfrwch a diniweidrwydd. |
Motifs