Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

G?r o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff'

Mary Thomas (1905-83)

Odd y corff, wel, y gannwyll gorff, yn mynd cyn yr angladd. Ôn i'n gweud wrtho chi am yn nhad-cu, fod e'n ofergoelus iawn yn gweld pethe felna. Odd e a'i ferch yn byw mewn tyddyn bach ddim ymhell, ac odd e yn gweld y gole corff 'ma bob amser. A rhyw ddiwrnod - rhyw nosweth - odd e allan ar bwys y t? â'r ferch. Ac odd e'n gweud wrth y ferch:

'Wyt ti'n gweld y gole corff 'na lawr fanna ar bwys y berth?'

'Nagw i', wedodd y ferch, 'wi'n gweld dim byd 'na'.

'Wyt ti'n gweld gole 'na yn fanna?' wedodd e,

'O, dim o gwbwl', wedodd hi.

'Wel, ma fe'n mynd lawr trw'r ca', wedodd e, 'a ma fe'n mynd trw'r bwlch', wedodd e, 'a ma fe'n mynd i'r t? 'co, fanco, T? Newydd', wedodd e.

A feddyliwyd dim am y peth. Mewn cwpwl o ddwrnode ddôth merch y T? Newydd 'ma i edrych amdanyn nhw, i gatre nhad-cu. Âth hi adre'r diwrnod 'ny. Erbyn iddi hi fynd adre odd 'i mam wedi câl y strôc a wedi cwmpo ar bwys y tân, ac odd hi wedi llosgi tipyn ar bwys y tân. Odd hi wedi marw yn fanny, wedi câl strôc ar bwys y tân. Ac mi redodd nôl i t? nhad-cu, a wedodd:

'Dowch, gyda fi ar un waith', wedodd hi, 'ma mam wedi marw.'
A mi âth y nhad-cu, a'm modryb nôl gydag e. A dyna fe, y gole corff. ôn nhw'n mynd nôl gyda hi, y diwrnod hynny i'r t?. Odd e wedi'u gweld nhw'n mynd cyn hynny. Odd e'n 'u gweld nhw, chwel. Odd e wedi gweld y gole corff cyn hynny.

Thomas -

Thomas Jones

Tad ych mam -

Tad 'y mam, odd Tad-cu yn gweld y gole corff bob amser ...

Wel, sut oeddech chi'n teimlo pan oeddech chi'n clywed yr hanes ena?

O, wel, teimlo bod d?r ôr yn mynd lawr trw nghefen i, pan wi'n clywed am yr ysbrydion 'ma.

Odd ych tad-cu wedi câl rhyw brofiade erill 'i hunan?

Odd e wedi câl amryw o brofiade, o ole corff. Fuodd Mam-gu farw amser odd yn mam yn wyth ôd, yn Ewyrth Dafydd yn whech ac Anti Charlotte yn fabi, yn ferch fach ifanc, wyth ar hugen ôd. Bu farw o'r dicâd, ôn nhw'n 'i alw e'r adeg hynny, odd dim gwella iddo fe. A'r nosweth cyn iddi hi farw odd e ar ymyl y gwely gyda hi, ac odd e'n gweld cannwyll fach a gole ar y gwely, a'i weld e'n mynd allan o'r t?. A wedyn nath 'i wraig e farw. Ac oedd e'n gweld gole corff 'i wraig yn mynd allan o'r t?. Ac odd hithe'n 'i weld e. Odd hi'n gweud:

'Wyt ti'n gweld y gole 'na yn mynd mâs trw'r drws, Tomos?' Odd hi'n gweld y gole ac ynte, ac odd hi'n marw'r dydd ar ôl hynny.

Wel, wel!

O, ôn nhw yn gweld e.

Recording

G?r o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 6451. Recordiwyd 4.v.1979.

Nodiadau

Adroddodd Mary Thomas yr hanesion uchod fel rhan o sgwrs rhyngddi hi, William Thomas, ei phriod, a'r holwr, am ragarwyddion angau yn ardal Ffair-rhos a'r cylch. Y mae'r hanesion yn dilyn yr hanesyn: 'Gweld angladd ar yr Hewl o Bontrhydfendigaid i Ystrad-fflur' a'r sylwadau a ganlyn gan William Thomas a Mary Thomas am goel arbennig ynglŷn â'r gannwyll gorff, neu 'ole corff', fel y galwent hwy y rhagarwydd.

WT: Ond, ch'mbod, odd gole corff 'da nhw ers blynydde nôl yn mynd ar hyd 'rhewl, ôch chi'n gweld gole bach yn dod, chwel. A hen Ddoctor Rowlands yn byw yn Bont 'ma, chwel. A gwedwch chi bod e yn gweld gole'n dod, odd e'n dod lawr o gefen 'i geffyl - odd e amser 'ny, i chi'n gwbod, yn mynd lawr ar hyd y wlad 'ma at bobol sâl, a rhywbeth felny, â cyffyle ôn nhw'n mynd - beth odd e'n gwneud, tynnu'i hat, chwel, os gwele fe bwll o ddŵr, rhoi'i hat ar bwys y dŵr. Odd e'n nabod y dyn odd yn mynd i farw, wrth bod y gole'n mynd trw'r hat.
MT: Os fyddech chi'n hapno gweld gole corff a bo chi'n paso trwy ddŵr ar yr hewl, fydde chi'n sbio yn y dŵr pan bydde'r angladd yn mynd trw'r dŵr ôch chi'n nabod y person fydde yn y coffin [chwerthin].
WT: Gobeithio cysgith e heno! Gobeithio cysgwch chi heno [gan gyfeirio at yr holwr a chwerthin]!
MT: O, dier annwl!
RG: ... A pwy oedd yn dweud yr hanes yma wrthoch chi?
WT: Wel, clywed yn mam-gu yn gweud. Odd yn mam-gu i yn whâr i'w thad hi [MT].
MT: Clywed yr hen bobol yn siarad, chwel, yr hen bobol yn trafod, i chi'n gweld. Yr hen fobol odd â'r hanesion 'na i gyd.
RG: Ac odd hi'n gred, bod modd gweld pwy fydde'n marw os ôch chi'n edrych yn y dŵr?
WT: Wel, ôch chi'n rhoi'ch hat fan hyn ar bwys y dŵr, cesech chi weld y gole, a wedyn fe nabyddech chi'r dyn yn yr hat, i chi'n gwbod, wrth bod y gole'n paso. 'Na beth ôn nhw'n weud.

Wedi i Mary Thomas adrodd am brofiadau ei thad-cu, Thomas Jones, Ysbyty Ystwyth, dyma ei hateb i'r cwestiwn: 'Pa fath ole oedd hwn?' 'Wel, gallwn i feddwl bod e'n amrywio yn 'i seis yn ôl oedran y dyn. Wi'n credu mai cannwyll go fach os bydde plentyn; odd hi'n fwy o seis os bydde dyn mewn ôd.' A dyma sylwadau pellach ganddi am gredöau ei thad-cu a'i ddylanwad arni hithau (tâp AWC 6450).

Odd e'n gymeriad arbennig iawn ... yn gymeriad ar 'i ben 'i hunan. Odd e'n gweld ysbryd a gole corff ymhob man.
Ydech chi'n credu mewn pethe felne?
Wel, odw.
Ydech chi?
Odw, wi yn credu, waeth odd yn nhad-cu yn credu ac odd e'n 'u gweld nhw, ac un peth dwi'n siŵr nag odd ddim o nhad-cu yn gweud anwiredd. Odd yn nhad-cu yn gweud y gwir.

Am hanesion eraill a adroddwyd gan Mary Thomas yn ymwneud â phrofiadau goruwchnaturiol, gw. eitemau:

  1. Clywed Canu Emyn am Dri o'r Gloch y Bore.
  2. Llanc Ifanc yn Dod Adre o Garu ac yn Gweld Ysbryd ei Bartner.
  3. Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl.

Teipiau

ML 4002 (C) Profiadau goruwchnaturiol.

Motifs