Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrHen Frwcsod Ffair-rhos
Mary Thomas (1905-83)
Wel, y Brwcsod odd yn Ffair-rhos 'ma - rhan fwya adeg hynny. Odd ffair yn Ffair-rhos, Ffair Gŵyl Grog ... Odd 'na ddynion yn dwad dros y mynydd o Rheiad [Rhaeadr Gwy] ac o Loeger yn cerdded yr anifeilied yr adeg hynny dros y mynydd a'u gwerthu nhw yn Ffair-rhos. Wel, wedyn, odd y Brwcsod yn gwbod bod arian 'da nhw i ddwad dros y mynydd, ôn nhw'n mynd lan i Nant y Bedde, rhwng Pontrhydfendigaid a Rhaeadr, i watsho nhw'n dod nôl ac yn 'u lladd nhw ac yn dwyn 'u harian nhw, a gorffod symud y ffair o Ffair-rhos i Bontrhydfendigaid, oherwydd y Brwcsod yn llofruddio'r bobol. A ma ffarm yn y fan hyn, Llidiart y Ffair, fan hyn odd y llidiart, o'ch chi'n dod mewn i'r ffair, ac o'ch chi'n gorffod talu am ddod mewn i'r ffair ... Ie, a ma ca lan 'na wedyn o'r enw Ca Ceffyle. Fanny odd y ffair geffyle, a [dwedwch chi nawr] bydde chi wedi prynu rhywbeth a bod 'da chi fag yn ych llaw, a bo chi'n roi fe lawr ar y llawr, ôn nhw'n gweiddi: 'Tibit' a rhaid i chi dalu am bo'ch chi wedi rhoid ych bag o'ch llaw lawr ar y llawr, chi'n gorffod talu.
Wel! Wel!
Ac o'n nhw'n lladd y bobol, ac fe glywes yn nhad-cu yn dweud: ar bwys Gwaith Esger Mwyn oedd 'na fedd, ac odd e'n gweud ma dyn wedi bod, o ardal Cwm Ystwyth, yn gwerthu yn y Ffair, a bod nhw wedi'i watsho fe'n dod nôl a wedi'i ladd e, a wedi'i gladdu fe, a'r bedd ar bwys Gwaith Mwyn. A ma nhw'n gweud wrtha i - fues i ddim i Nant y Bedde - bod 'na amryw o fedde yn Nant y Bedde nawr, pobol odd wedi câl 'u llofruddio gyda'r Brwcsod Ffair-rhos 'ma.
[WT] Ma lle o'r enw Nant y Bedde lan ar y mynydd nawr, chweld.
Ôs rhwng y Bont a Rheiad. Ac fe symudwyd y ffair oherwydd hynna.
Tua pryd symudwyd y Ffair?
Dim eidïa pryd, ond odd 'na bump ffair yn Ffair-rhos ac yn Pontrhydfendigaid ar ôl hynny: Ffair Calanmai - Ffair Calan Mai, y drydedd ar ddeg o Fai; Ffair Rhos Gynta - dwi'n credu mai mis Mai; Ffair Rhos Genol, ym mis Mehefin neu Gorffennaf; Ffair Gŵyl Grog, y bymed ar hugen o fis Medi, a Ffair Rhos Fach, y drydedd ar ddeg o Hydref - pump ffair ...
I ddod nôl at y Brwcsod 'ma, sut fyddwch chi'n defnyddio'r enw 'Brwcsod' heddiw, felly? Be 'di arwyddocad y gair i chi heddiw?
O, wel, arwyddocad y gair i fi, 'tê, rhywbeth rhyntw i a nhw, rhywbeth rhynto chi a nhw. Nawrte, bo chi'n gweud: 'Cer yr hen Frwcsyn.' Ch'mbod, rhywbeth felne, bod chi'n dannod y peth, r'un peth a ôn nhw'n gweud amdano i yn 'Goel', dannod iddyn nhw bod nhw'n Frwcsyn. A dyna beth odd y Brwcsod i starto, dyn o Cornwal yn dod i weithio i'r gwaith mwyn ac yn priodi ac yn aros yn Ffair-rhos, Mr Books oedd e, a hiliogaeth e yw'r Brwcsod sy' yn Ffair-rhos ... Ie, Brooks, Mr Brooks oedd e. Wedyn mae 'i dylwyth e'n cal 'u galw yn 'Brwcsod'.
Wel, odd y Mr Brooks 'ma wedi gneud rhywbeth o'i le i gael ei alw?
O, dim o gwbwl, odd e wedi neud dim o le.
[WT] ôn nhw'n ddynion go gas, i chi'n gwbod.
Dynion cas. ôn nhw'n ddynion odd ddim yn câl 'u parchu yn yr ardal ... Wel, gorffod symud y ffair o Ffair-rhos i'r Bont oherwydd y Brwcsod.
Ei dylwyth o odd yn ymosod -
Ei dylwyth e - y Brooks ' ma - odd yn ymosod ar y bobol.
A'r porthmyn odd yn 'i chael hi fwya?
O, ia. Rheini fydde 'di bod yn y ffair. Rheini ôn nhw'n gwbod bod arian dag e.
Pwy odd yn dweud yr hanes 'ma wrthoch chi?
O, wi wedi clywed digon 'da nhad a mam, hanes y Brwcsod. A ma digon o'r Brwcsod, hiliogeth y Brwcsod, yn byw ar hyn o bryd 'ma.
Ydi'r un nodweddion gynnyn nhw heddiw, neu ydyn nhw wedi cymysgu?
O, ma nhw 'di cymysgu â dynion erill. O ma nhw'n olreit nawr.
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 6450. Recordiwyd 4.v.1979.Nodiadau
Adroddwyd yr hanes uchod wrth drafod llysenwau trigolion yr ardaloedd cyfagos. Digynnai Mary Thomas o linach 'yr hen Goel Cadwgan', a dyna pam yr oedd rhai pobl yn tynnu ei choes ac yn ei galw hi yn 'hen Goel'. Dywediad cyffredin oedd: 'Ei di ddim dros honna, mae hi'n un o'r hen Goelied'. Soniodd Mary Thomas hefyd am 'Frain Cwm Ystwyth' a 'Lladron Tregaron'. Dyma sylw o eiddo William Thomas, priod Mary Thomas: 'Odd 'ma hen foi'n dod aton ni o'r mart a fase fo'n clywed Mary'n gweud "Lladron Tregaron" fydde'n gas iawn, chi'n gwbod ... Ôn nhw, ers blynydde'n ôl, yn mynd i werthu lawr i Dregaron, ch'mbod ? i werthu creaduried a phethe felny ? i'r farchnad fishol, a odd 'na ddynion yn 'u watsho nhw yn dod nôl y nos, am y ceue ? nhw, rhynt Tregaron a'r Bont [Pontrhydfendigaid], a nawr o'n nhw'n digi'u harian nhw ar yr hewl i ddod nôl o Tregaron i'r Bont, chwel.'
Teipiau
Motifs