Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrBle Ti'n Mynd Heddi, Deryn Bach Byw?
Gwilym Major (1906 - 96)
Stori arall wedyn, ch'weld. Odd bachan fan hyn, o Bont Rhyd-y-cyff, yn dod sha thre o'r gwaith. Odd lefal gyda fe ar y mynydd, grôs yn y pentre bach lawr man hyn. A fe odd y bos. Fe odd yn rhetag y lefal, ondê. Fe odd y bos. Odd e'n dod sha thre o'r gwaith, ar ôl bennu'i ddiwrnod, a fe welodd [d]deryn yn mynd lan tuag at y Dyran – lle bach côd yw'r Dyran 'ma, ch'mod. Ac odd e'n meddwl wrth 'i hunan yn dod sha thre felne, 'ma fe'n dachre dodi cwpwl o geirie 'da'i gilydd. Ac fe âth mlân a fe wetodd:
'Le ti'n mynd heddi, deryn bach byw?'
'Lan tua'r Dyran, os bydda i byw.'
'Beth ti'n moyn yn Dyran, deryn bach byw?'
'I torri elan, os bydda i byw.'
'Beth ti'n moyn â elan, deryn bach byw?'
'I wado'n geffyl, os bydda i byw.'
'Beth ti'n moyn â ceffyl, deryn bach byw?'
'I mynd tua'r ffair, os bydda i byw.'
'Beth ti'n moyn â ffair, deryn bach byw?'
'I prynu halan, os bydda i byw.'
'Beth ti'n moyn â halan, deryn bach byw?'
'I taclu fy'n gawl, os bydda i byw.'
'Wel, beth ti'n moyn â cawl, deryn bach byw?'
'I taclu'n fy mola, os bydda i byw.'
'Beth ti'n moyn â bola, deryn bach byw?'
'Gonbai bola, byddwn i ddim byw.'
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 6509. Recordiwyd 16.x.1981.Nodiadau
Clywodd Gwilym Major yr eitem hon gan ei dad, Richard Major, Llwyn Gwladus, Llangynwyd, pan oedd yn blentyn. Yr oedd Gwilym Major bron yn sicr mai William Rhys oedd enw'r gŵr a gyfarchodd yr aderyn.
O blith y geiriau tafodieithol a geir yng nghyflwyniad llafar Gwilym Major, gellir nodi'n arbennig:
elan = gwialan / gwialen
taclu = rhoi
Ac eithrio un enghraifft yn y paragraff agoriadol, ni cheisiwyd cywiro'r camdreiglo lled aml a welir yn fersiwn lafar y storïwr.
Ail-adroddir y stori a'r gân gan Gwilym Major ar dâp AWC 7495, recordiwyd 21.ix.1989.
Adrodd y pennill a wnai Gwilym Major, fel ei dad, ond cofnodwyd y pennill hefyd fel cân werin. (Gw., er enghraifft, Cymru'r Plant, cyf. 20, 1911, t. 71, a Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, cyf. 2, rhan 2, 1919, t. 135.) Cyfeirio at 'y deryn bach syw' (gwych, hardd) a wneir yn y gân werin, fel arfer. Cofnodwyd y fersiwn a gyhoeddwyd yn Cymru'r Plant gan W. J. Davies, Ysgol George Town, Merthyr Tudful, gyda'r nodyn hwn:
'Canwyd hi [yr 'hwiangerdd'] gan fy mam-gu yr hon a hannai o Ben-bwlch Heble, ger Aberystwyth, ac a drigiannai yno o tua 1820 hyd tua 1845. Symudodd i Ddowlais, ac yno suwyd fy annwyl fam a minnau i gysgu, a dyddorwyd ni gan ei swyn lawer gwaith. Yr wyf wedi ceisio ysgrifennu y dôn gyda hi ...'
'I ble ti'n mynd heddy, deryn bach syw?'
'I mofyn bara, os bydda'i byw.'
'I beth ti'n mo'yn â bara, deryn bach syw?'
'I ddodi yn 'y nghawl, os bydda'i byw.'
'I beth ti'n mo'yn â cawl, deryn bach syw?'
'I ddodi yn 'y mola, os bydda'i byw.'
'I beth ti'n mo'yn â bola, deryn bach syw?'
'Wel, oni bai bola, byddwn i ddim byw.'
Dyma'r nodyn a'r fersiwn o'r gân a gyhoeddwyd yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru:
'Miss A. Jones, Criccieth, heard the following form of the rhyme sung by a South Wales soldier who was billeted in a neighbour's house. He used to sing the words while nursing his hostess's little grand-daughter.'
'Ble 'rwyt ti'n mynd, y deryn bach syw?'
'Rwy'n mynd i'r farchnad, os bydda'i byw.'
'Beth nei di yn y farchnad, y deryn bach syw?'
'I mo'yn halen, os bydda'i byw.'
'Beth nei di â halen, y deryn bach syw?'
'I roi yn y cawl, os bydda'i byw.'
'Beth nei di â'r cawl, y deryn bach syw?'
'I roi yn y bola, os bydda'i byw.'
'Beth nei di â'r bola, y deryn bach syw?'
(Emphatically) 'Oni bai am y bola, b'aswn i ddim byw.'
Yn y pennill a gofnodwyd gan T H Evans, 'Cadrawd' (Llsg. AWC 1392), dywedir mai'r robin goch oedd y 'deryn bach byw'. Dyma ddwy linell agoriadol y pennill:
'Ble ti'n mynd heddi, deryn bach byw?'
'Lan i'r Daran, os bydda i byw.'
Cyfeirio at 'gylla' nid 'bola' a wneir yn y fersiwn hon.
Perthyn y fersiwn a gofnodwyd gan Lilian Rees, Y Tymbl (1973, Llsg. AWC 2186/78) yn agos i'r pennill a adroddir gan Gwilym Major. Dyma'r agoriad:
'Ble ti'n mynd heddi, dderyn bach byw?'
'Bant i'r coed, os bydda'i byw.'
Teipiau
Motifs