Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrLlanc Ifanc yn Dod Adre o Garu ac yn Gweld Ysbryd ei Bartner
Mary Thomas (1905-83)
Glywes i nhad yn gweud wedyn, odd e'n fachan ifanc, odd e'n byw yn ffarm Cae Madog ... A nawr odd e a mab y ffarm yma, Bron Berllan, odd yn ffinio â nhw, yn ffrindie, ac odd 'y nhad yn caru mam. Amser hynny odd hi'n forwn, odd hi'n gweitho yn Red Lion, Bont, gyda modryb iddi yn y tafarn, ac odd Dada'n mynd lawr i garu. Ac odd Lewis, 'i bartner e, - Bron Berllan - yn mynd i garu lan wedyn yn Troed Rhiw. Mi briododd y ddou y merched hefyd. Ac odd nhad wedi bod yn caru - caru trw'r nos odd adeg hynny, chi'n gweld - nhad wedi bod yn Red Lion yn caru trw'r nos yn yr haf. Ac odd e'n mynd adre o'r Bont nawr dros Pen Banne a heibio ffarm Bron Berllan, a trw'r caeau o Bron Berllan i Cae Madog, i'w gatre'i hunan. A wedyn, rhwng Cae Madog, eu ffarm nhw, nawr, a Bron Berllan, odd e'n gweld Lewis Bron Berllan yn dod adre wedyn, i Bron Berllan wedi bod yn caru yn Troed Rhiw. Odd e'n gweud, yn yr haf nawr, i chi'n gwbod, odd e'n gweud: 'Co Lewis yn dod, ma Lewis wedi bod yn caru, nawr.' A ôn nhw'n dod i gwrdd â'i gily' i'r Bwlch yn y ca, a meddwl câl tshiat nawr a siarad â Lewis fanny. Âth yn nhad i'r bwlch, ond odd dim tamed o Lewis 'dag e. A wedodd Dad:
'Lewis, le'r wyt ti, bachan?' Dim yn ateb.
'Dere mlân, bachan', medde fe, 'pwy ise ti gwato?' wedodd y nhad. 'Wi'n gwbod le ti 'di bod - yn caru'n Troed Rhiw, der mlân, a 'dw inne 'di bod yn Red Lion, dere mâs inni gâl smôc'.
Dim sôn am Lewis yn dod allan. Dada'n edrych dros y cloddie. Dim, dim tamed o sôn am Lewis. Odd ddim o Lewis 'na. A cyn bod e wedi cyrradd adre i Cae Madog fe feddyliodd mai wedi gweld ysbryd Lewis odd e. 'Duw!' wedodd e, mi redodd yr holl ffordd adre wedyn i Cae Madog a lan yn syth i'r gwely, dan y dillad, wedi câl ofon.
Drannoth fe welodd frawd Lewis yn y ca, ath ato fe a wedodd e felna:
'Fuo Lewis chi rhywle neithiwr?'
'Na', wedodd e, 'fuo Lewis ni ddim yn un man nithwr, eson i'r gwely'n gynnar neithwr i gyd', medde'r brawd.
Ac odd Lewis ddim wedi bod, ond odd Dada wedi gweld e yn dod o Troed Rhiw ac yn cwrdd ag e, ac yn y bwlch. Eisteddodd y nhad yn ochor y Bwlch i gâl smôc a siarad, ond odd mo Lewis 'na. A'i ysbryd e wedi bod yn caru yn Troed Rhiw chwel [chwerthin].
[WT] Mae'n gwaethygu!
Odd 'i ysbryd e wedi bod yn caru yn Troed Rhiw, chwel [MT a WT yn chwerthin.]. Odd e wedi meddwl, debyg iawn, mynd i Droed Rhiw, chwel, odd e wedi meddwl mynd, debyg iawn, ond odd e wedi ffeili mynd, ond odd yr ysbryd wedi bod, a odd yr ysbryd yn dod adre [chwerthin].
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 6451. Recordiwyd 4.v.1979.Nodiadau
Clywodd Mary Thomas yr hanes gan ei thad, William Lloyd. Yr oedd yn byw ac yn gweithio ar y pryd pan gafodd y profiad yng Nghae Madog, tyddyn yn ffinio â thiroedd Mynachlog Ystrad-fflur. Roedd Lewis, ei bartner, yn fab fferm gyfagos Bron Berllan.
Am hanesion eraill gan Mary Thomas yn ymwneud â phrofiadau goruwchnaturiol, gw. eitemau:
- Clywed Canu Emyn am Dri o'r Gloch y Bore.
- G_r o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff'.
- Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl.
Teipiau
ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |
ML 4031 (C) | Ysbryd ar ffurf ddynol. |
Motifs
ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |