Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Marchog Ceunant y Cyffdy

Owen T(homas) Jones

Stori oedd hi am eneth yn y Cwm 'ma [Cwm Tylo]. Dwi ddim yn siŵr iawn yn ble roedd hi'n [byw]. Oedd hi'n forwyn, dwi'n meddwl, yn un o amaethdai'r Cwm 'ma, yndê. Ac wedi mynd lawr i'r Bala, ar ryw noson ffair, ma'n debyg, ac yn cerdded adre, [wyddoch] chi, o'r Bala - shwrne o beder i bum milltir heleth, yndê. Ac yn dwad - wedi codi i fyny'n Llanecil fanne - yn dwad dros ryw ddarn o weundir ryden ni'n 'i alw'n Ffridd y Fondro. Ac, yn rhyfedd iawn, ar Ffridd y Fondro 'ma dyma ddyn i'w chwarfod hi, wyddoch chi, ac yn twyso ci mawr, gwyn. Wel, oedd hi'n methu deall. A dyma fo'n gofyn:

'Nosweth dda', medde fo wrthi, felne, a dyma fo'n cynnig - 'gin bod hi'n o hwyr, fyse well imi ych danfon chi adre, dwch?', medde fo.

'Wel, na', medde hithe, 'does gynna i ddim ofn nos', medde hi, 'o gwbwl, ond mae gen i ofn cŵn yn fy mywyd', medde hi. 'Chyma i - na, ddim diolch yn fawr ichi.'

Ac yn 'i blaen â hi. Ac wedi dwad dipyn bach wedyn, ichi, yn rhyfedd iawn, beth oedd yn 'i chwarfod hi wedyn ond dyn yn twyso buwch wen.

'Nos da', medde fo, ac yn 'i chyfarch hi run fath yn union [ag o'r blaen]. 'Gai gynnig cymwynas ichi. Dech chi allan yn o hwyr', medde fo, 'ga'i gynnig cymwynas ichi? Ga'i ych danfon chi?'

'Na chewch wir', medde hithe, felne, 'does gynna i ddim ofn nos', medde hi 'ond ma genna i ofn gwartheg gynddeiriog.'

Wel, hynny fu. Ymlaen â hi, beth bynnag. Wel, rwan, pan ddaeth hi yn 'i blaen, ichi, i ryw le - Penyrafel oedden ni'n 'i alw fo, ar ben top, cyn cychwyn i lawr rwan i olwg y Parc, yndê - dyma 'ne ŵr ifanc yn marchogeth ceffyl [gwyn] yn dwad i'w chwarfod hi.

'O, helo', medde fo, 'pwy 'di'r ferch ifanc hardd 'ma sy'n cerdded adre'i hun? Ga'i gynnig danfon chi adre?'

'Na chewch, yn siŵr', medde hithe.

'Wel, well imi gael', medde fo.

'Na, chewch wir, well gen i fynd', medde hi, felne, 'achos mi ddeuda i wrthoch chi pam. Dwi'n hoff iawn o ferlod', medde hi, 'ond mae'n gas iawn genna i farchogwyr.'

'Wel, welwch, yntê', medde'r marchogwr, a dyma fo'n disgyn i lawr oddi ar y cyfrwy. 'Cymrwch y merlyn yma ichi gael mynd ar 'i gefn o.'

A dyma fo'n 'i chodi hi ar y cyfrwy ac yn 'i gyrru hi'n 'i blaen. A dyma hi'n dal i ddwad rwan ar gefn y ceffyl gwyn 'ma. Ac wedi dwad ryw dipyn i lawr dest i'r golwg at y Cyffdy, fanna, dyw! dyma hi'n meddwl: 'Deiar', medde hi, 'dwi wedi bod yn anniolchgar', medde hi, felne, 'cymryd y merlyn 'ma i fynd adre a gadel y marchogwr i fynd lle licie fo.' Ac yn hollol ddisymwth, felne, o'i blaen hi mi wele ddryse mawr yn cau'r ffordd, [fel] nad oedd dim gobaith iddi fynd yn 'i blaen. Duwcs! dyma hi'n dychryn dipyn rwan, a'r merlyn hefyd ryw dipyn - dychryn dipyn. Oedden nhw gyferbyn â rhyw bren celyn. (Ma'r pren celyn ma'n nodedig iawn. Mae o wrth adwy'r Cyffdy - log o bren celyn mawr.) Ac yn fanno roedd y drws 'ma wedi cau.

'O, wel', medde hi, 'y peth gore i mi rwan ydi troi yn f'ôl', medde hi, achos oedd hi'n gwybod 'i bod hi 'di gadael y marchogwr i fyny ar ben yr allt. Ond, er 'i syndod, oedd 'ne ddrws wedyn wedi ciau 'rochr ucha, [fel] na fedse hi fynd yn ôl nag ymlaen. Wel, wydde hi ar y dduar be i'w wneud rwan. Ac wrth ddal i edrych yno, be wele hi ond y marchog ifanc 'ma - y gŵr ifanc 'ma - yn sefyll wrth y drws 'ma. A dyma fo'n deud wrthi:

'Wel, dyma fi wedi'ch dal chi rwan', medde fo. 'Dyma fi yn rhoid un rhybudd ichi', medde fo felne. 'Mi gewch chi fis a diwrnod' - dwn i'm pam mis a diwrnod, ond mis a diwrnod - 'i wneud ych meddwl i fyny ydech chi am fod yn wraig i mi.'

Wel, oedd hi wedi dychryn at y cynnig. Ac eto, oedd hi'n 'i weld o'n fachgen glandeg, ifanc, nobl iawn, yndê. A dyma hi'n mentro deud: 'Wel, oreit, 'te', medde hi, felne, 'mi gymra i'r her', medde hi, 'a mi ddo'i i'ch cwarfod chi mhen mis a diwrnod.' A hynny fu. A pan oedd hi'n dweud hynny - wedi addo gneud hynny - dyma'r ddau ddrws yn cilio, a dyma hi'n cael mynd yn 'i blaen, cerdded yn 'i blaen, a'r marchog yn mynd ar gefn 'i ferlyn ac yn 'i ôl.

A'r peth oedd yn syndod, medde nhad, ymhen mis a diwrnod mi ddiflannodd yr eneth. Wydde neb lle roedd hi. Na dim sylw na dim ohoni i'w gweld yn unlle, blaw mi aeth ymhen mis a diwrnod union, a mi ddiflannodd o'r golwg. Ac oedd pawb yn deud mai wedi mynd i briodi'r llanc ifanc 'ma oedd hi - Marchog Ceunant y Cyffdy.

Recording

Marchog Ceunant y Cyffdy

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 6464-5. Recordiwyd 21 Ebrill 1981.

Nodiadau

Clywodd Owen T Jones stori Marchog Ceunant y Cyffdy gan ei dad, John Owen Jones, ar yr aelwyd yn Nhŷ Du, Parc, a chan ei dad yn unig. Yr oedd bryd hynny yn 'hen lerpyn tuag ugain oed'. Dyma rai o sylwadau diddorol Owen T Jones am yr achlysur ac am y modd y clywodd ei dad storïau o'r fath.

'Wel, cefndir llawer stori, wyddoch chi, ydi nosweithie y 'Dolig - swpera 'Dolig. Fydde'r ardal yma'n lle enwog iawn erstalwm am gael swper tua'r Nadolig. Fydden ni'n edrych ymlaen am bythefnos o gwmpas y Nadolig - pythefnos cyn y Nadolig a pythefnos ar ôl y Nadolig. Fydde 'ma naill yn gwahodd y llall ac ymgasglu - nenwedig pobol ifanc - i fynd i swpera at ein gilydd, yndê. Ia, a wedyn yn y swpere yne y clywesh i lawer iawn...

Wel, 'y nhad [John Owen Jones] fydde'r gore. Fydde nhad yn adroddwr straeon heb 'i ail, ychi. Fydde'n ymhyfrydu mewn adrodd stori. Fydde wrth 'i fodd, nenwedig os oedd o'n codi dipyn o ddychryn ar hwn a'r llall. A mae'n debyg bod 'ne amcan arbennig, dech chi'n gweld. Fydde'r bobol [oedd yn cael] gwahoddiad i swper yn gymysg, yn ferched ac yn fechgyn, ac amcan mawr stori go lew a dipyn o gic ynddi oedd codi dipyn bach o ofn ar y merched, fel fedsen nhw ddim mynd adre'u hunen! Fydde raid cael danfonwr. Wedyn, fydde stori ysbryd, fel rheol, yn stori go lwyddiannus i'r amcan hwnnw, yndê ...

Yn un o'r nosweithie swperydd 'ma, mae'n siwr, fydde'n adrodd y stori [Marchog Ceunant y Cyffdy]. Fydden ni'n gylch o gwmpas y tân. Wedyn, fydde'n deud y stori yma a'r stori arall ... fel ryw fath o eiteme pwysig yn y swper Nadolig wrth wneud cyfleth - tra bydde'r cyfleth yn berwi, yn enewedig. Fydde di-m iws ichi beidio troi'r cyfleth am foment. Fydde raid ichi 'i droi o, a throi a throi, ac wedyn fydde'n cymryd gryn dipyn [o amser]. Hwyrach y bydde raid iddo fod yn berwi am ugien munud, yndê. A watshiad, os bydde fo wedi cydiad yng ngwaelod y sgelet, neu'r sosban, oedd hi wedi darfod ar gyfleth. Fydde blas tân arno fo. A wedyn yn y cyfwng bach yne y bydde'r straeon 'ma'n dwad o hyd - stori'r peth yma a'r peth arall... Fydden ni'n gneud cyfleth yn amal iawn, yn amlach nag un noson. O, bydden. Os bydde 'ne rywun yn digwydd dwad acw, dyn! beth am wneud cyfleth heno? ... Ia, oedd o ryw ramant. A'i dynnu o oedd y peth gore fedsech chi 'i neud, dech weld. Odd 'ne grefft arbennig mewn tynnu cyfleth, nid tynnu rwsud-rwsud. Odd raid ichi 'i dynnu fo a rhoid ryw hanner tro ynddo, bob tro, er mwyn 'i gâl o fel - be galwch chi - fel plethen, dech weld, natur pleth ynddo fo, yndê.'

Pwy oedd yn bresennol ar yr aelwyd, gofynnwyd:

'O, plant cymdogion, cymdogion ni yn fanma: plant Pant Neuodd [Pant Neuadd], bechgyn a genethod Pant Neuodd, a phawb fydde 'ma; plant Tyddyn Du - cymdogion i gyd yn dod. A wedyn, yn 'u tro, fydden ninne'n mynd i'w cartrefi nhwthe, 'ndê ... ddim ond y plant. Fydde'r bobol hŷn ddim yn dwad. Dim ond yr ifanc fydde'n dwad i'r swperydd. Ond yr hen odd yn 'i neud o, wrth reswm ... Fydden ni'n dechre yn gynnar cyn y Dolig, dwy, beder noson hwyrach, cyn y Dolig. Wedyn, fydde 'na neb ar nos Nadolig, fel rheol. Ond nos tranweth Nadolig, fydde 'na shiwr fod swper yn rhwle, 'ndê. Welesh i fydden ni'n cerdded oddyma i Dai Hirion. Welesh i ni'n mynd i fyny i Flaen Lliw - i Gwm Blaen Lliw - i swper, yndê. O, wel, fydden yn gyffredin iawn yn ffermydd yr ardal 'ma, yndê. Wel, fydde pawb yn cyfnewid 'u noson. Fydde dim iws trefnu dim byd, achos "mae hi'n swper yn y Fron", ne "mae hi'n swper ym Mhant Neuodd" ... fydde 'ne swpera mawr yn Llanuwchllyn, run fath yn union, llawn mwy nag ardal y Parc, dwi'n meddwl.'

Nid gwneud cyfleth, gwledda ac adrodd storïau yn unig a ddigwyddai yn y swperydd Nadolig. Roedd bri hefyd ar chwaraeon.

'Wel, pob math o chwaraeon ... Y chwarae mawr fydde "Chwarae Mwgwd 'r Ieir". Odd o'n beth rhyfedd, yndoedd, son am chware Mwgwd 'r Ieir mewn tŷ. Cofio ni'n chware Mwgwd 'r Ieir yn y Fondro ... [hanes torri potyn yn dal planhigyn ar y ffenest] Oedd 'na lawer o bethe doniol yn digwydd. Wedyn chware - hen chware - "Cadeirie Canu" fydden ni'n 'u galw nhw. Os bydde 'no offeryn yn tŷ, fyddech chi'n gosod cader. Ac os mai deg o chwaraewyr oedd 'no, wel, naw cader, yndê. A wedyn fydde raid ichi gerdded oddi amgylch tra bydde'r canu'n mynd. A wedyn, munud stopie'r canu, odd raid ichi fwrw am gader. Wedyn, y sawl fydde heb 'run gader oedd allan o'r neilltu. Wedyn, tynnu'r gader honno i ffwrdd. Felly nes bydde'r gader ola wedi dwad ... Fydde 'ne amryw byd o hen organe bach - hen 'American organ' bach - 'u chwythu, yndê. Odd rheiny'n bethe bach diddorol iawn.'

Dyma ateb Owen Jones i'r cwestiwn a oedd yna rywrai yn gofyn i'w dad yn arbennig am gael clywed stori Marchog Ceunant y Cyffdy:

'Wel, bydde, fydde amryw yn gofyn: "Duwcs! sgynnoch chi 'run stori? Sgynnoch chi stori newydd, Owen Jones?" Ne, "sgynnoch chi ryw stori 'den ni heb 'i glywed?" A wedyn fydde hynny'n 'i dynnu o allan fwya, ma'n debyg, i adrodd y straeon 'ma, 'ndê.'

A dyma ateb Owen T Jones i'r cwestiwn gan bwy roedd ei dad wedi clywed stori Marchog Ceunant y Cyffdy ac eraill:

'O, gen wahanol hen gymeriade yn y Cwm 'ma. Ia, fydde'n deud: "Glywesh i William Jones, Ty'n Twll, yn deud fel hyn ac fel hyn", yndê. O, ia, mae'n debyg mai ar lafar yr oedden nhw hyd y fan 'ma. Dyna'r dull yr amser honno, ma'n debyg - adrodd. Oedd hen gymeriade yn byw yn Ty'n Shiglen 'ma [Gwen a Robet Jones], cyn i'r hen dŷ fynd lawr, yn hollol anllythrennog, ond yn gwybod y straeon yma; ddim yn medru darllen dim byd, chwaith; wedi cadw'r cyfan ar eu cof ... Fydde'n sôn llawer iawn [hefyd] am ryw hen Rolant Jones - 'Rolant y Bugel' fydden nhw'n 'i alw fo. Oedd o'n byw yn Llwyn Hir. Fydde gen Rolant ryw stori o hyd, 'nenwedig pan fydde fo'n dwad heibio. Oedd o'n bugeilio fyny yn Cwm Tylo 'ma, ac wedyn fydde'n eistedd i lawr ac heibio Tŷ Du bob amser ar fin nos i sgwrshio, a fydde llawer iawn o straeon Rolant [yn cael eu hadrodd].'

Roedd John Owen Jones, tad Owen T Jones, wedi'i eni yn Nhŷ Du, Parc. 'Oedd 'ne draddodiad rwan o sgwrshio aelwyd yn mynd yn ôl yn Tŷ Du, mae'n siwr, ers cenedlaethe, oedd?', gofynnodd yr holwr, ac atebodd Owen T Jones:

'Oedd, ma shiwr, ychi, oedd, achos fydde yn ewyrth [Thomas Jones, brawd tad O T J] yn un o'r ychydig iawn oedd wedi cael addysg bach go lew yn y cwm yr adeg honno. Oedd o 'di cael ysgol ramadeg yn Y Bala. Chydig iawn oedd yn mynd yno ... Oedd o'n gyd-ysgolor â O M Edwards [a] Puleston ... Wedyn oedd o'n ddarllenwr, achos fydde 'rhen Robet Jones, 'rhen greadur, a'r hen Gwen Jones oedd yn byw yn Ty'n Shiglen 'ma yn dwad lawr hirnos gaea i tŷ, chi'n gweld, a 'Newyrth yn darllen Caban Fewyrth Twm iddyn nhw. Deyn! fydde'r hen Robet Jones yn gwrando'n eiddgar, yndê. A pan fydde yno ryw ddarne go galonrwygol o'r llyfr, fydde 'ne ddagre mawr yn powlio i lawr, yndê. Dywcs! dyna'r cyfnod, dech chi'n gweld - dyna'r diwylliant, mae'n debyg oedd i'w gael iddyn nhw, yndê. Doedden nhw ddim yn meddwl mynd oddma i nunlle, nag oedden.'

Fel ateb i gwestiwn a oedd ei dad erioed wedi sgrifennu stori Marchog Ceunant y Cyffdy, meddai Owen T Jones:

'Ddim hyd y gwn i. Mi sgrifennodd lawer iawn o bethe hefyd. Fydde genno fo adgofion diddorol iawn. Odd o 'di sgrifennu nhw ar ryw hen ddarne rhyfedda o bapur welsoch chi erioed ... Odd o'n llenyddwr eitha da, wir, a wedi bod yn cystadlu'n Eisteddfod Y Bala lawer iawn, Steddfod y Nadolig amser honno - Cwarfod Nadolig Capel Tegid, Y Bala - fuodd yn mynd am flynyddoedd lawer, ganrif yn ôl. Fydde'n sgrifennu traethode hirion ar faterion Beiblaidd ac ati, yndê.'

Wedi adrodd stori Marchog Ceunant y Cyffdy, dyma rai o sylwadau Owen T Jones am ei ymateb ef ac eraill iddi:

'Wel, dyna'r stori ichi. Dwi ddim yn gwybod oedd hi'n wir, ai peidio, blaw fydden ni'n cymryd ryw ddiddordeb mawr iawn ynddi, yndê, yn gweld ryw ramant yn perthyn iddi. Ia ... ac yn trio'i esbonio fo, yndê. Ond dyna fo, [dydy] pobol heddiw ddim yn coelio ffashiwn beth, yndê, ond oedd yr hen bobol yn credu bod rhywbeth tebyg wedi bod, wyddoch chi. Oedden nhw'n argyhoeddedig, am wn i, yndê, wedi cael syniad gen naill a'r llall, ac wedyn yn meddwl yn shŵr bod o'n wirionedd - yr hen straeon 'ma. Dyna'u diwylliant nhw...

Roedd hi'n hen stori, dwi'n meddwl. Wrth reswm, y peth oedd yn gwneud y peth yn hynach na hynny oedd bod y Cyffdy, gyda llaw, yn hen. Oedd y Cyffdy yn lle henafol iawn. Fyswn i'n meddwl bod o'n ganrifoedd oed. Mae hen dŷ'r Cyffdy yn dŷ anghyffredin iawn, yn dŷ mawr, hanner plasty bach, ar y ffordd sy'n mynd o'r Parc yn ôl i Lanecil.'

Cafodd stori Marchog Ceunant y Cyffdy ac eraill ddylanwad go arbennig ar Owen T Jones:

'Wel, ôn i'n meddwl bod hi'n ddiddorol iawn. Dwn im, mi ddaru greu ryw chwilfrydedd mawr yna'i. Dwi'n credu bod hi 'di geni dipyn bach o awydd llenydda yna i wrth wrando straeon fel 'na, yndê. Wyddoch chi, does neb yn medru creu dim byd heb ichi glywed ryw gefndir iddo ac mae o'n newid ych byd a'ch meddwl chi, fydda i'n meddwl, yntê. Ia ... Wel, yn rhyfedd iawn, dwi'n siwr bod y straeon yma, rhan fwyaf ohonyn nhw, wedi'u sgrifennu mewn cyfnod ysgol nos yn y Parc 'ma. Dwi'n mynd nôl rwan, ichi, nes i drigien mlynedd. Yr ysgolfeistr lleol, Mr R G Roberts yn cynnal dosbarth ysgol nos yn rhoid ryw ambell i dasg inni felna. Stori fer fydde'r dasg ambell i noson. Fydde fo'n darllen inni nifer o straeon byrion yn enghraifft. Wedyn fydde ishio i ninne gyfansoddi rhai. Ac wedyn, tro arall, ryw stori yn ymwneud â'r cwm 'ma. A ma'n debyg mai felly doth ambell 'i stori felna - stori Marchog y Cyffdy, er enghraifft, yn un, yndê. Ac wedyn, ambell i stori ysbryd hwyrach.'

Y storïau ysgrifenedig hyn oedd sail colofn Owen T Jones, 'Erstalwm', yn y papur bro, Pethe Penllyn. (Cyhoeddwyd stori Marchog Ceunant y Cyffdy yng nghyfrol 2, rhif 6, mis Mai, 1976).

Hyd y gwyddys, ni chofnodwyd yr un fersiwn arall yng Nghymru o stori Marchog Ceunant y Cyffdy. Er i Gretta Jones, hanner chwaer Owen T Jones, fel ei brawd, glywed llawer o storïau ar yr aelwyd yn Nhŷ Du, gan ei thad a'i hewyrth, Thomas Jones, ni chofiai glywed y stori arbennig hon (gw. tapiau AWC 2976-8; rec. 23 Medi 1970). Ond clywodd lawer o sôn am 'Fwgan Giât y Cyffdy'.

'Yn ryw oes fydde rhai'n gweld dwy olwyn o dân wrth y giât sydd yn mynd i'r Cyffdy, na fedrai neb basio. Ac os triai rywun basio bod nhw'n cau i'w gilydd. Ond dwi'n meddwl mai dychymyg oedd rheini. Glywish i ddim stori amdanyn nhw, ond felne, yndê. Bydde rai ofn pasio giât y Cyffdy, ofn bod nhw'n gweld 'r olwynion tân 'ma. Wn im faint o sail sydd i beth felly ... Glywish i nhad yn sôn, wel, os bydden ni'n hwyr yn mynd i rwle: "Gwatshia di, bydd Bwgan Giât Cyffdy ... " Ha! Ha! Ond welish i rioed ddim byd 'te.' (Tâp AWC 2978).

Cofnodwyd hefyd un chwedl werin eithriadol o ddiddorol am elyniaeth rhwng y Marchog o Gaer-gai a'i gymydog, y 'Cefngrwm o'r Cyffdy'. Cynhwyswyd hi ymhlith atgofion gwerthfawr John Castell Evans, Llanuwchllyn, 'Yr Hen Amser Gynt: ei Veirdd, ei Varddoniaeth, ei Bobl, ei Chwedlau', a ysgrifennwyd ganddo rhwng 1869 ac 1871. (Gw. Llsg. Ll.G.C. 10, 567, a Trefor M Owen, 'Hywel y Prys: Hen Chwedl o Lanuwchllyn', Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, cyf. 3, rhif 4, 1960, tt. 343-9.)

Teipiau

Motifs