Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Stori Siôn a Siân a'r Fuwch yn Driflo

Kate Davies (1892-1980)

Odd 'na ryw lot o storis byti Siôn a Siân wedyn, chwel. Dwi ddim yn cofio nhw. Ond Siôn a Siân a'r fuwch honno. Odd Siôn a Siân - ôn nhw'n byw mewn bwthyn, chwel, ar bwys Fron-y-frân. Ac un wenwnllyd iawn odd Siân. Odd ishe rhwbeth arni rownd ac odd hi'n poeni p?er ar Siôn. A gododd chwant arni i gadw buwch. Odd ishe buwch arni nawr, câl pori ar y fron. Wedi iddi boeni lot, âth Siôn i'r ffair i brynu buwch. Ac fe ddaeth â buwch nôl, buwch ddu. Wel, pan daeth e nôl â hi, odd Siân yn llawn gwenwn. Buwch goch a gwyn odd hi am, nid buwch ddu. Naethe hi mo'r tro. Ond 'na fe. Ath Siôn at 'i waith drannoth.

A 'na le odd Siân. Odd hi'n arfer mynd amser cino i dalcen y t? a bwtso tato mewn basn nawr a menyn 'da nhw. A 'na cino Siân bob amser odd tato b?ts a menyn. Ac odd hi wedi mynd mâs i dalcen y t? i'w byta nhw. A duwc, odd y fuwch yn gorwedd fanny heb fod ymhell iawn. Ac odd Siân yn gweld y fuwch yn cnoi 'i chil. Ac fe gredodd, chwel, bod y fuwch yn 'i hacto hi yn byta. O, fe gododd 'i natur hi. Ath miwn i'r t? i hôl mwrthwl, a beth nâth hi ond bwrw'r fuwch yn 'i thalcen, nes 'i bod hi'n dead. Wel, odd hi ddim yn gwbod beth i neud wedyn. Wedi iddi weld bod y fuwch wedi trigo, bu farw Siân o sioc. A dath Siôn gatre o'i waith, a pan welodd Siôn y fuwch a Siân wedi marw, bu farw ynte o sioc. [chwerthin]

Wel, jiw, rwbeth felna odd y stori. Alla'i 'im gweud 'thoch chi. [Parhau i chwerthin.] Ond well 'da fi weud hi ar gân:

Os gwnewch chi wrando, fawr a mân,
Cewch gennyf stori nawr ar gân;
Ni chlywsoch un o'i bath o'r blân,
Rwy ddigon siwr o hynny.

Adroddwyd hi gan Modryb Nel
Sy yn ei bedd yn awr ers sbel.
A stori wir neu anwir, wel,
Gewch chi benderfynu.

Ei bod hi ar gael y mae'n beth syn,
Daeth lawr o ach i ach fel hyn;
Ni fu erioed ar bapur gwyn,
Dyw hynny ddim yn bwysig.

Ceir hanes gwiw am Siôn a Siân
Fu'n byw mewn bwth ger Bron-y-frân,
Yn gynnar yn yr oes o'r blân,
Hen fangre digon unig.

Mi ddwedaf hyn cyn mynd ymlân:
Un digon smala ydoedd Siân,
Roedd popeth bron yn groes i'w grân,
A phoena'i Siôn am hynny.

Un dydd, fe roddodd Siân ei bryd
Ar gadw buwch er gwella'i byd,
A grwgnach wnâi ar Siôn o hyd,
O hyd i fynd i'w phrynu.

Ac wedi gweld bod Siân mor daer,
Aeth Siôn un bore tua'r ffair,
A phrynodd fuwch, do, ar fy ngair,
Am beder punt a choron.

Daeth â hi adre yn ddi-ffael,
Ac ebe Siân: 'Hen fuwch ddu, wael;
Un goch a gwyn own i am gael;
Rhaid mynd i'w gwerthu'n union.'

Trannoeth, pan ddaeth yr hanner dydd,
Aeth Siân a'i chinio gyda hi
I eistedd mâs wrth dalcen t?,
I fwyta'n ôl ei harfer.

Ac yno'n gorwedd roedd y fuwch,
A chnoi ei chil a driflo'n ffliwch.
A dyna ddechre trwbwl, clywch,
Fe gollodd Siân ei thymer.

Cyn pen fawr iawn fe sylwodd Siân
Fod gên y fuwch yn mynd nôl a mlân,
Mewn tymer aeth yn wenfflam dân
A chablu yn ddi-derfyn.

Fe gredodd fod yr hen fuwch ddu
Yn cael difyrrwch, welwch chi,
Wrth geisio ei dynwared hi
Yn bwyta'i b?ts a menyn.

'Mi'th setla'i di, y creadur cas',
Medd Siân, a rhedeg wnaeth ar ras
I'r t?, a daeth â morthwyl mâs,
A dirmyg lond ei chalon.

Anelodd at y fuwch â hwn,
A rhwng ei dau gorn aeth yn grwn,
Ble cafodd hi shwt nerth, ni wn,
Na'r hawl i fod mor greulon.

Bu farw'r fuwch, heb f? na mô,
Rhodd siglad fach i'w chwt, O, do,
Cyn tynnu chwyth am yr olaf dro,
Y creadur bitw, croenddu.

Bu farw Siân, mewn llewyg, toc,
Daeth Siôn, gweld corpws Siân, a'r stoc,
Bu'n ddigon iddo farw o sioc.
Dyna ddiwedd ar y stori.

Recording

Stori Siôn a Siân a'r Fuwch yn Driflo

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 3891. Recordiwyd 16.vi.1973.

Nodiadau

Clywodd Kate Davies y stori hon gan ei Modryb Kitty (Kitty Jones), chwaer ei mam, pan oedd yn eneth ar yr aelwyd ym Mhren-gwyn (er iddi, oherwydd yr odl, nodi mai ei modryb Nel a adroddodd y stori). Am wybodaeth bellach am Kate Davies a'i modryb Kitty, gw. 'Stori Twm a Siôn a Dai a'r Tri Llo Coch'.

Ail-recordiwyd Kate Davies yn adrodd 'Stori Siôn a Siân a'r Fuwch yn Driflo', 3.v.1979, tâp AWC 6449. Yn y fersiwn honno dywedir bod Siân i ddechrau eisiau prynu asyn. Dyma agoriad yr ail fersiwn: 'Odd Siôn a Siân yn byw gyda'i gilydd, chwel, a Siân mor anghysurus a alle hi fod. Odd ddim byd yn neud y tro iddi, chweld. Odd ishie asyn arni i ddechre. Wel, werthwyd yr asyn, a wedyn odd hi ishie buwch arni ...'

Yn dilyn y recordiad cyntaf o 'Stori Siôn a Siân a'r Fuwch yn Driflo' (tâp AWC 3891), adroddodd Kate Davies stori a gyfeiriai at ysbryd yr asyn hwn.

'Run storis odd gyda hi [Modryb Kitty], chwel. Odd dim stori newydd 'da hi bob tro. Ond odd lot o storis 'da hi. Odd stori 'da hi wedyn am Siôn a Siân yn byw a'r asyn gyda nhw - smo hon yn stori hir - ond y stori odd bod yr asyn wedi trigo. Ac, wrth gwrs, ôn nhw wedi blingo'r asyn. A wi ddim yn gwybod le ôn nhw wedi rhoi'r crôn, ond odd crôn yr asyn yn dod lawr trw'r shime bob nos atyn nhw, chwel. A wedyn odd e'n gweiddi: "Y - y - y - y - y - y". 'Na'r ysbryd. Odd crôn yr asyn yn dod lawr trw'r shime bob nos a neud sŵn yr asyn. 'Na'r stori odd hi'n weud wrtho ni nawr pan byse hi'n bryd i ni fynd i'r gwely, chi'n deall, chwel. Wedi bennu'r storis, 'na'r stori ddwetha, hala ofon [arnon ni]. ôn ni ddim yn hir wedyn cyn mynd i'r gwely.'

Teipiau

AT 1211 Tyddynwraig yn credu bod y fuwch sy'n cnoi ei chil yn ei dynwared hi. Mae'n lladd y fuwch.

Motifs