Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Stori Twm a Siôn a Dai a'r Tri Llo Coch

Kate Davies (1892-1980)

Odd 'na ffarmwr tlawd a ffarmwr cyfoethog. Ac odd gyda'r ffarmwr tlawd dri mab, Twm a Siôn a Dai. Ac odd merch gyda'r ffarmwr cyfoethog. Odd y ddou'n byw ar bwys 'i gilydd, yn ffinio â'i gilydd. Ac odd y tri mab 'ma nawr, Twm a Siôn a Dai, wedi cwmpo mewn cariad â'r ferch. Ac rodd hi'n ferch bert: 'i gwallt hi fel y gwenith melyn, 'i llyged hi fel yr awyr las, a'i boche hi fel y rhosyn coch odd yn tyddu ym mwlch yr ardd. A nawr odd y tri bachgen wedi gofyn i'r ffarmwr cyfoethog, a geisen nhw'r ferch yn wraig. Ac odd e'n gweud, beth naethe fe â nhw odd roie fe bob i lo iddyn nhw. A'r un gore sy'n edrych ar ôl y llo - erbyn Ffair Llanfyllin, wy'n credu - yr un byse wedi câl y pris mwya yn Ffair Llanfyllin am y llo, hwnnw geise'r ferch yn wraig. A, wel, geison bob i lo, bob i lo coch.

A nawr odd Twm, hen un dioglyd iawn odd Twm. Odd dim lot o chwant gwaith arno fe. Ac odd Dai wedyn, hen sgemer odd e. Odd 'im ots dag e beth fydde'n neud. Ond odd e'n mofyn y ferch yn wraig. A Siôn wedyn, Siôn odd y gore o'r tri. Ac odd Siôn yn fachgen neis ac yn bopeth odd ishe. Ac, yn rhyfedd iawn, bysen nhw'n gwbod y cwbwl, odd Siôn a'r ferch yn caru yn ddirgel. Ond odd mo'r ddou arall yn gwbod 'ny. Dodd dim neb yn gwbod. Wel, y tri mab nawr yn neud 'u gore i dendo'r lloi. Drigodd llo Twm, whap iawn, achos odd Twm ddim yn edrych ar 'i ôl e. Ac rodd Dai, nawr, yn neud 'i ore at y llo. Ond llo Siôn odd yn dod mlân ore. 'Da Siôn odd y llo gore.

A nawr, odd Siôn a'r ferch yn cwrdd â'i gilydd yn ddirgel. A 'na le ôn nhw'n mynd - i'r fynwent, o dan yr hen ywen. A fanny ôn nhw'n caru'n ddistaw, a byth yn câl 'u styrbio fanny. Ac, wel, ymhen blwyddyn nawr odd y ffair 'ma, ac odd hi'n mynd nawr yn flwyddyn a'r ffair yn nesàu. Ac ôn nhw'n caru - Siôn nawr a'r ferch yn caru o dan yr ywen. A ddaeth yno ddyn rhyw nosweth yn ddistaw a cwdyn 'dag e, a torri tipyn o frige'r ywen. Ond nabyddodd Siôn e. Diallodd Siôn pwy odd e. A nawr mewn dwyrnod neu ddou wedyn ar ôl hynny, a'r ffair yn nesàu nawr, drigodd llo Siôn. Ac odd e ddim yn diall, odd e ddim yn deall beth odd e 'di gâl. Ond fe gâs afel ar frigyn neu ddou o ywen yn y cafan o flân y llo. Ac fe ddeallodd ar unwaith. Fe gofiodd fod Dai wedi bod yn 'neud rhwbeth â'r ywen, tynnu tipyn o'i brige hi off a rhoi e yn y cwdyn. Ddiallodd ar unwaith fod Dai wedi rhoi e yng nghafan y llo. Ac, wrth gwrs, ma'r ywen - dail yr ywen - yn wenwn i greadur, yn enwedig i dda cyrnog. Ac, wrth gwrs, drigodd y llo. Ond beth 'nath Siôn ond plingo'r llo a sychu'r crôn, a wedodd e ddim byd.

Ddâth y ffair 'no [beth bynnag], ac, wrth gwrs, ath Dai â'i lo i'r ffair a gâs bris go lew. Tair punt, dwi'n meddwl, o bris gâs e am y llo. Ac odd e'n fachgen nawr, wrth gwrs, odd e'n gwgu am y ferch yn wraig. Ac yn y ffair nawr 'na'r sbort ryfedda ôn nhw'n gâl yn y ffair, odd 'na ryw hen ?r â clocs am 'i drâd e a hen ddillad rhacs amdano fe, a cwdyn am 'i wddwg e yn hongian â chorden a baich o gareion lleder ar 'i war e. A 'na le odd e'n mynd trw'r ffair yn gweiddi:

'Rhics, rhocs, careion, clocs,
Rhics, rhocs, careion, clocs.'

A'r dynion yn 'i ddilyn e ac yn prynu y careion 'ma nawr am ddwy ginog yr un. Ac ôn nhw'n rhai da. Ac odd Siôn - yr hen ?r 'ma - nawr yn tynnu'r careion a rhoi her i unrhyw un ohonyn nhw i dorri nhw. Dim neb yn galler neud hi. Ond, ta beth, 'na ddiwedd ar y ffair. 'Na'r pleser gore ôn nhw wedi câl odd dilyn yr hen ?r 'ma a'i glywed e'n gweiddi 'Rhics, rhocs, careion, clocs' o hyd.

A'r nosweth 'ny, nawr, odd Dai yn mynd nawr i'r ffarm, wedi gwerthu'r llo ac wedi câl tair punt yn 'i le fe, ac odd e wrth gwrs, odd e'n hawlio'r ferch yn wraig. Ac ôn nhw'n rhifo'r arian nawr ar y ford a daeth cnoc ar y drws. Ath y ferch mâs a ddath miwn, a wedodd hi wrth 'i thad taw'r hen ?r odd yn y ffair odd 'no yn gofyn a geise fe lodjin am y nos. A wedodd e: 'O, ceith, ceith', wedodd e, 'gwêd 'tho fe y ceith e'. A ofynnodd e wedyn - ddoth miwn fanny i'r drws - a ofynnodd e a gofale fe am y cwdyn arian odd dag e, y cwdyn â'r cinioge nawr odd e 'di gâl am y careion yn y ffair. 'Oreit, gofala i amdanyn nhw hyd y bore', wedodd y ffarmwr, 'ond ma rhaid 'u rhifo nhw'n gynta.'

A towlwd nhw mâs fanny i'r ford. A fuodd Dai wedyn a'r ferch a'r ffarmwr yn rhifo'r arian. A tra fuon nhw fanny, daeth Siôn i mewn i manny ac i'r aelwyd yn ddistaw bach, a fe dynnodd yr hen ddillad rhacs lawr, a tynnu'r farf lawr. A phan troion nhw yn ôl i edrych, pwy odd 'no ond Siôn. A nawr, odd yn rhaid rhifo arian Siôn, y peth gâs e am y llo. Ecspleniodd Siôn iddyn nhw wedyn mai fe odd yr hen ?r odd yn y ffair. Ac wedyn rhifo'r arian, ac odd gydag e dair punt a choron o ginoge. Odd mwy dag e wedyn nag odd gyda Dai. Ac, wrth gwrs, fe câs y ferch yn wraig A fuon byw'n gysurus byth wedyn.

Recording

Stori Twm a Si

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 3890-91. Recordiwyd 16.vi.1973.

Nodiadau

Clywodd Kate Davies y stori hon yn bennaf gan ei modryb, Kitty Jones, chwaer ei mam, Mary Thomas. Arferai 'Anti Kitty' ddod yn aml at y teulu i Bren-gwyn, ac yn arbennig i helpu mam Kate Davies. Roedd hi yn un o ddeuddeg o blant, ac meddai Kate Davies amdani: 'hi odd gatre heb briodi, a phriododd hi ddim 'sbo fi 'di priodi ... Odd Anti Kitty 'da ni pan 'se mam nawr -wi'n cofio am y plant lleia'n cael 'u geni -fydde'n tendo mam ... ôn i'n cyfri hi fwy fel ryw ail fam inni ... Odd hi'n neis iawn i ni amser ôn ni'n blant.' Disgrifiodd hi hefyd fel person 'craffus'.

Gyda'r nos, yn arbennig, byddai Kate Davies a'r plant eraill yn gofyn: 'O, Anti Kitty, dewch â storis ... Falle byse hi'n rhoi posus neu rywbeth gynta, chwel, pan 'se hi'n eiste 'da ni wrth tân, chwel. A fysen ni wedyn, cyn diwedd, yn gofyn am "Stori Twm a Siôn a Dai a'r Tri Llo Coch". A bydde hi'n dechre wedyn.' Dyma'r math o 'bosus' oedd ganddi: 'Sawl cwt llo sy isie i fynd i'r lleuad. (Un os bydd y cwt yn ddigon hir!)'; 'Pwy ochr o'r eglwys ma'r goeden yn tyfu. (Yr ochr fâs!)' Y pôs, neu'r chwarae, mwyaf poblogaidd oedd: 'Fentra'i na ei di ddim i Siop Pen-bont â basgeded o wye heb ddweud "ie".'

Arferai Modryb Kitty hefyd adrodd clymau tafod i ddifyrru'r plant. Dau o'r rhai a gofiai Kate Davies yw:

Mae cwrci cathlas yn tŷ ni,
Mae cwrci cathlas yn tŷ chi;
Mae cwrci cathlas ni saith cathlasach
Na'ch cwrci cathlas chi.

Magwd Magi Madog, ond methwyd magu mab Magi Magod.

Yr un modd, yr oedd 'clonc' yn rhan o ddifyrrwch yr aelwyd, ac ambell dro byddai mam Kate Davies ac Anti Kitty yn siarad mewn iaith od, yn arbennig onid oeddynt am i'r plant ddeall eu sgwrs, 'rhoi "dd" ac "g" miwn rhwng y geirie o hyd, er enghraifft: Taddawgn soddogn rheddegn ffwddwgl dwddwgl" (Taw sôn yr hen ffwl dwl)'.

Roedd awyrgylch hapus iawn bob amser ar yr aelwyd ym Mhren-gwyn, medd Kate Davies: 'Plant tlawd ôn ni, plant gweithiwr. Ceson cadw'n lân; ceson ddigon o fwyd. Ceson ni ddim moethe, ond ceson ni amser cysurus iawn -neis iawn. Nhad a mam byth yn cwmpo mâs â'i gilydd ... Chlywon ni ddim hen stori wael na dim byd ar yr aelwyd.'

Eistedd ar y sgiw o flaen y tân a wnai Modryb Kitty fel arfer, 'a 'na beth odd gyda ni blant wedyn odd stole tartroed -odd pob un â'i stôl.'

Dyma sylw Kate Davies wedi iddi orffen adrodd 'Stori Twm a Siôn a Dai a'r Tri Llo Coch' ar y tâp y tro cyntaf a'r ail dro: 'Sa i'n gwbod shwd dw i wedi gweud hwnna, achos wi ddim wedi gweud y stori ers blynyddoedd ... oddiar y plant yn fach ... Wi'n cofio'r stori'n iawn, chwel, ond wy'n ffili dod mâs â hi, ch'mod, fel leiciwn i weud stori -fel odd Anti. Meddyliwch chi nawr, fysech chi'n gweud stori ac yn gwbod hi'n blaen o hyd, fysech chi'n gallu'i gweud hi'n well, oni byddech chi. Wrth gwrs, ma hi digon talpog gyda fi nawr ... Wi'm cofio nawr oddna ryw bits bach mâs, neu bido ... Odd hi [Anti Kitty] yn adrodd y stori yn dda, allwn i byth 'i hactio hi ... odd y llais a chwbl 'da hi i adrodd stori.'

I gloi'r noson arferai Modryb Kitty adrodd stori i 'hala ofon' ar y plant: 'ôn ni ddim yn hir wedyn cyn mynd i'r gwely'. Y stori a adroddai gan amlaf oedd hanes asyn Siôn a Siân yn 'trigo', blingo'i groen, a'r croen yn 'dod lawr atyn nhw trw'r shime bob nos' ac yn gwneud sŵn aflafar, yn union fel asyn. (Am y stori hon yn llawn, gw. un arall o storïau Modryb Kitty: 'Stori Siôn a Siân a'r Fuwch yn Driflo'.)

O'r llu o storïau a glywodd Kate Davies gan ei modryb, Stori Twm a Siôn a Dai a'r Tri Llo Coch oedd un o'i hoff storïau. Pan ofynnwyd iddi beth oedd y rheswm am hynny a pham yr oedd wedi cofio'r stori arbennig hon, atebodd: 'Odd rhwbeth yn fodern yn y stori 'na, chwel, stori garu hefyd, odd hynny, falle.' Rheswm pellach oedd fod y brawd Siôn wedi llwyddo yn y diwedd i fynd 'dros ben y ddau [frawd] arall'. Er ei bod ar adegau yn ymdrechu beth i gofio holl fanylion y stori, adroddwyd hi gan Kate Davies yn llawn lliw a mynegiant, mewn Cymraeg llafar cyfoethog.

Ail-adroddwyd y stori gan Kate Davies ymhen rhyw hanner awr wedi'r cyflwyniad cyntaf (tâp AWC 3890), a thestun o'r ail recordiad (tâp AWC 3891) a gynhwysir uchod. Mân wahaniaethau yn unig sydd rhwng y naill recordiad a'r llall. Yn recordiad 1 dywed Kate Davies 'erbyn Hen Ffair -chofia'i ddim enw'r ffair nawr, hefyd.' Yn yr ail recordiad dywed: 'erbyn Ffair Llanfyllin, rwy'n credu.' Yn recordiad 1, 'dwy bunt' a gaiff Dai yn y ffair am werthu'i lo. Yn yr ail recordiad dywedir iddo dderbyn 'tair punt'. Ceir trydydd recordiad o 'Stori Twm a Siôn a Dai a'r Tri Llo Coch', gan Kate Davies, ar dâp AWC 6449 (3.v.1979). Yn y fersiwn hon ni chyfeiria at swm penodol o arian a dderbyniodd Dai am ei lo ef, y cyfan a ddywedir yw: 'Sa i'n cofio faint o arian oedd o wedi'i gael am y llo, oedd o wedi cael arian mowr.' Ni chyfeirir yn y fersiwn hon chwaith at y ffair benodol yr aeth Siôn iddi i werthu'r careiau. Y cyfan a ddywedir yw i Siôn 'fynd i'r ffair'.

Mewn pennod ar y testun 'Difyrrwch yr Aelwyd' yn ei chyfrol Hafau fy Mhlentyndod (1970), cynhwysodd Kate Davies destun printiedig o'r stori (tt. 24-7). Cedwir at yr un elfennau storïol, ond y mae'r disgrifiadau yn y testun printiedig mewn mannau yn fanylach. Rhoddir enw i ferch y ffermwr, sef 'Beti', ac fel hyn y disgrifir hi:

'Un bert iawn odd Beti a chanddi groen fel llaeth, ei gwallt fel y gwenith aeddfed, a'i bochau a'i gwefusau yr un lliw â'r rhosyn coch a dyfai ar bwys bwlch yr ardd. Roedd ganddi ddau lygad fel y nos.'

Yn y fersiynau a gofnodwyd oddi ar lafar, llo Twm sy'n marw, a Dai sy'n mynd â'i lo coch i'w werthu yn y ffair ac yn gwenwyno llo Siôn, er bod un sylw gan Kate Davies yn fersiwn 1 yn awgrymu nad yw hi yn gwbl sicr: 'Ac odd Twm nawr -Twm neu Dai, wi'm cofio'n iawn.' Yn y fersiwn brintiedig, fodd bynnag, llo Dai sy'n marw a Twm, yn 'ddyn bras', sy'n mynd â'i lo 'mewn penwast' i'r ffair i'w werthu ac yn gwenwyno llo Siôn. Fel hyn hefyd y disgrifir y brodyr:

'...un mawreddog, slei, oedd Twm, a meddyliai lawer amdano'i hunan. Un dioglyd oedd Dai, ac ro'dd e'n hollol ddifater ynglŷn â phob gwaith. Siôn oedd y mab gorau o ddigon ac nid oedd byth sôn amdano.'

Yn y fersiwn lafar a gofnodwyd gyntaf (tâp 3890) dyma ddisgrifiad o'r brodyr:

'Odd Twm nawr, hen un di-werth iawn odd e. Odd gormod o ddiogi ar Twm i wneud dim byd. Ac odd Dai wedyn, hen un mên odd e ... A nawr odd Siôn -Siôn odd y bachgen gore.'

Yn y drydedd fersiwn lafar (tâp 6444) disgrifir Dai fel hyn: 'hen snîc allen i feddwl odd e, ond nid snïc odd hi [Anti Kitty] yn weud wrtho ni [blant] -ond "hen un cas odd Dai".'

Dywedir yn y fersiwn brintiedig mai yn 'Ffair Llanarfryn', yn ôl cyfarwyddyd y ffermwr, yr oedd y brodyr i werthu'r tri llo, a rhoddir disgrifiad lled fanwl o'r 'hen ŵr' (Siôn) yn y ffair:

'Y sbort fwya a gawd yn y ffair y diwrnod hwnnw oedd gyda'r hen ŵr oedd yn gwerthu careion. Roedd ei got e'n jibiders a'i drowser yn rhacs. Ar ei ben gwisgai hat lwyd a honno'n dod lawr dros ei glustiau, dim ond ychydig iawn o'i wyneb oedd yn y golwg am fod ganddo farf wen, wlanog yn cuddio'r cyfan i lawr hyd at waelod ei wasgod ... a phrynodd pawb yn y ffair bâr am ddwy geiniog y pâr. Cariai gwdyn am ei wddwg a thowlai e'r cinioge miwn i hwnnw. Erbyn diwedd y ffair yr oedd yr hen ŵr yn hollol wargam gan bwysau'r arian, ac wedi iddo werthu'r pâr olaf diflannodd mor ddistaw â'r gath.'

Yn fersiwn lafar 1 dwy geiniog y pâr (fel yn y fersiwn brintiedig) yw pris y careion. Dwy geiniog yr un yw'r pris yn yr ail fersiwn lafar (a gyhoeddir uchod), ond ni nodir y pris o gwbl yn y drydedd fersiwn lafar.

Cyfeiriwyd eisoes yn yr amrywiadau rhwng y swm terfynol a dderbyniwyd am y llo a werthwyd yn y ffair a'r arian a enillodd Siôn am werthu'r careion. Yn y fersiwn brintiedig, tair punt a gafodd Twm am ei lo coch, ond cafodd Siôn dair punt a hanner coron am werthu'r careion.

Diwedd y stori yn y fersiynau llafar yw bod Siôn yn priodi'r ferch a'r ddau yn byw yn hapus byth wedyn. Yn y testun printiedig, fodd bynnag, ychwanegir y paragraff hwn:

'Ond cadwodd Siôn un gyfrinach iddo fe'i hunan. Ddwedodd e ddim wrth neb 'i fod e wedi nabod Twm 'i frawd yn torri brigau'r ywen a'i fod e wedi cael brigyn tenau ohonynt yng nghafan 'i lo drannoeth. Rhaid bod Twm wedi rhoi dail ywen i'r llo am y gwydde fe'n burion bod ywen yn wenwn hollol i bob creadur corniog.'

Dyma'r sylw terfynol a wnaeth Kate Davies am y stori hon yn ei chyfrol Hafau fy Mhlentyndod (t. 27):

'Adroddai Anti Kitty'r chwedl yna bob tro y deuai ar ei thro i'n tŷ ni. Ni chollodd ddim o'i blas hyd nes i'r plant adael yr aelwyd a mynd i chwilio am ein tocyn ein hunain. Yn wir, rwyf innau wedi cael hwyl fawr wrth adrodd 'rhen stori wrth blantach lawer gwaith wedi hynny.'

Teipiau

Motifs