Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Y Frân Fowr a'r Frân Fach yn Mynd i'r Coed i Gnoua

Mary Thomas (1905-83)

Brân fowr a brân fach yn mynd i'r coed i gnoua. Âth y ddwy lan i ben y goeden. Weiddodd y frân fowr mewn tipyn ar y frân fach: 'Helest ti gwpaned?' 'Helest ti ffioled?' Neb yn ateb. Gweiddi wedyn: 'Helest ti gwpaned?' Neb yn ateb. 'Helest ti ffioled?' Neb yn ateb. Ath yr hen frân fowr lawr. Odd y frân fach wedi cwmpo a torri'i phen wrth gnoua.

Fe redodd wedyn at y llo: 'Da lo bach, rho ddou flewyn o wallt dy ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'
'Gwêt ti wrth y fuwch am roi llâth i fi, mi wna.'

Fe redodd wedyn at y fuwch: 'Da fuwch fach, rho lâth i'r llo, i'r llo roi dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'
'Gwêt ti wrth y sâr am neud aerw i mi, mi wna.'

'Da sâr bach, rho aerw i'r fuwch, i'r fuwch roi llâth i'r llo, i'r llo roi dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'
'Gwêt ti wrth y crydd am neud sgidie i mi, mi wna.'

'Da grydd bach, gwna sgidie i'r sâr, i'r sâr neud aerw i'r fuwch, i'r fuwch roi llâth i'r llo, i'r llo roi dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'
'Gwêt ti wrth y mochyn am roi gwrychyn i mi, mi wna.'

'Da fochyn bach, rho wrychyn i'r crydd, i'r crydd neud sgidie i'r sâr, i'r sâr roi aerw i'r fuwch, i'r fuwch roi llâth i'r llo, i'r llo roi dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'
'Gwêt ti wrth y forwyn am roi golchan i mi, mi wna.'

'Da forwyn fach, rho olchan i'r mochyn, i'r mochyn roi gwrychyn i'r crydd, i'r crydd neud sgidie i'r sâr, i'r sâr roi aerw i'r fuwch, i'r fuwch roi llâth i'r llo, i'r llo roi dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'
'Gwêt ti wrth dy fistres am roi brechdan i mi, mi wna.'

'Da fistres bach, rho frechdan i'r forwyn, i'r forwyn roi golchan i'r mochyn, i'r mochyn roi gwrychyn i'r crydd, i'r crydd roi sgidie i'r sâr, i'r sâr roi aerw i'r fuwch, i'r fuwch roi llâth i'r llo, i'r llo roi dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'
'Gwêt ti wrth y mistir am iddo roi'r agoriad i mi, mi wna.'

'Da fistir bach, rho'r agoriad i'r fistres, i'r fistres roi brechdan i'r forwyn, i'r forwyn roi golchan i'r mochyn, i'r mochyn roi gwrychyn i'r crydd, i'r crydd roi sgidie i'r sâr, i'r sâr roi aerw i'r fuwch, i'r fuwch roi llâth i'r llo, i'r llo roi dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach sy wedi cwmpo wrth gnoua.'

Bant â'r mistir â'r agoriad i'r fistres, bant â'r fistres â'r frechdan i'r forwyn, bant â'r forwyn â'r golchan i'r mochyn, bant â'r mochyn â'r gwrychyn i'r crydd, bant â'r crydd â'r sgidie i'r sâr, bant â'r sâr â'r aerw i'r fuwch, bant â'r fuwch â'r llâth i'r llo, bant â'r llo â dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach odd wedi cwmpo wrth gnoua. Ac erbyn iddyn nhw fynd nôl, odd pen y frân fach wedi drewi! [MT a'i phriod, William Thomas, yn chwerthin yn hir.]

Recording

Y Fr

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 6454. Recordiwyd 5.v.1979.

Nodiadau

Dyma ran o'r sgwrs a gafwyd wedi i Mary Thomas (MT) adrodd y stori y tro cyntaf, sef y testun a gyflwynwyd uchod.

Wel, dyna goron y sgwrs, yntê. O ble ddôth honna?

O, wi 'di clywed honna lawer gwaith.

[WT] Mae hi'n gneud nhw, ngwas i!

[MT] Bant â'r mistir â'r agoriad i'r fistres, bant â'r fistres â'r frechdan i'r forwyn, bant â'r forwyn â'r golchan i'r mochyn, bant â'r mochyn â'r gwrychyn i'r crydd, bant â'r crydd â'r sgidie i'r sâr, bant â'r sâr â'r aerw i'r fuwch, bant â'r fuwch â'r llâth i'r llo, bant â'r llo â dou flewyn o wallt 'i ben i glymu pen y frân fach odd wedi cwmpo wrth gnoua. Ac erbyn iddyn nhw fynd nôl, odd pen y frân fach wedi drewi! [Ail-adrodd yn gyflymach fyth yr ail dro. Yna y ddau yn chwerthin eto.]

Dyna gwlwm tafod!

[WT] Odd 'y nhad yn arfer gweud amdani hi - wyddoch chi beth odd fy nhad yn gweud amdani?

Am bwy rwan?

[WT] Wel, hi 'ma!

Am Mary!

[WT] Ie, am Mary. Be chi'n meddwl odd 'y nhad yn weud? Na chlywodd e neb yn llefaru yn gynt na hi eriôd.

[MT] Chi'n gwbod, pan ôn nhw'n dod o'r capel nos Sul nawr, ôn ni'n dod lawr o'r eglwys ac odd ffrindie yn mynd i'r capel, chwel. A nawr ôn ni'n dod nôl, i Ffair-rhos fan hyn, fydde ni wedi dod o flân rhai o'r merched, ond fydden ni'n dod lan fan hyn, a fydden nhw'n dod lan o'r Bont, ôn nhw'n gweud: 'Mary Lloyd yw honna sy'n siarad.' ôn nhw'n nabod yn llais i, i chi'n gweld. ôn ni'n siarad mor groch, i chi'n gwbod, mor blaen, ôn nhw'n yng nghlywed i wrth ddod lan o gapel y Babtist.

Dywedwch i mi rwan, pwy odd yn adrodd y stori yna wrthoch chi?...

O, wel, mam glywes i'n 'i hadrodd hi wrtho i, chwel.

Ych mam.

Ie, ombiti'r frân fach sy'n cwmpo wrth gnoua.

Be odd hi'n galw'r stori?

Wel, clywes i ddim teitl i'r stori o gwbwl: y frân fach - y ddwy frân, y frân fowr a'r frân fach yn mynd i'r coed i gnoua. Y frân fowr a'r frân fach oedd y teitl, yn mynd i'r coed i gnoua.

O, ie.

A eson i ben y coed a oedd y frân fowr yn gweiddi ar y frân fach: 'Helest ti ffioled?' Na, dim ateb. 'Helest ti gwpaned?' Dim yn ateb. A holi felna, dath lawr i weld, ac odd y frân fach wedi torri'i phen.

Dywedwch rwan, 'tê, fyddech chi'n gofyn weithie i'ch mam ddweud y stori 'ma?

Na, fydde hi'n 'i gweud hi, falle.

[WT] Ie, chwel! Nawr, odd ddim television na wireless na dim ar ôl benni'ch gwaith yn y nos, odd 'da chi orie y gaea, ch'mbod ...

Wel, dwi 'di dotio at y stori yna.

[WT] Hei, cerwch ar y ffôn, gwedwch wrth y wraig ewch chi'm adre heno! ... [Chwerthin]

Dwi 'di dotio at y stori 'na efo'r frân fawr a'r frân fach. Odd ych mam yn adrodd y stori 'na yn gyflym, gyflym?

Odd, odd. Odd mam yn gallu 'i gweud hi 'run peth â fi nawr. 'Bant â'r mistir â'r allwedd i'r feistres, bant ...' [Ail-adrodd y paragraff olaf.]

Pryd ddaru chi adrodd y stori yna ddiwetha rwan?

O, jiw, blynydde maith.

[WT] Blynydde maith yn ôl.

Ond wi'n 'i chofio hi.

Ie, ond pryd?

Duw, annwyl dad, ma blynydde. Wrth y plant 'ma, amser odd y plant 'ma'n fach ... Chi'n gwbod, ma'n plant ni - ôn nhw wedi gwrando ar lot o'r storïe 'ma, yn plant ni.

[WT] Ond ma deugen mlyne oddi ar hynny, chwel, ma'r plant yn ddeugen ôd.

'Dach chi 'di deud y stori yna ers hynny, felly?

O, ddim yn amal. Wi'm yn gweud honna ... ond wi'n cofio hi, chi'n gwbod. [Mary Thomas yn ail-adrodd y stori gyfan unwaith eto, ar gais yr holwr y tro hwn.]

[WT] Ma gofyn bod tafod go lew 'da chi i'w weud e, ond dyw e?

[Chwerthin] O, diar diar!

[WT] Ma gofyn bod tafod go gwic.

Ie, bant â'r mistir â'r allwedd ... [Ail-adrodd y paragraff olaf eto.]

Glywsoch chi neb ond ych mam yn dweud y stori yna?

Naddo. Mam, wi'n credu, wi 'di clywed yn gweud honna.

Ie, 'na chi. Ac odd hi rwan yn gweud y stori 'na'n gyflymach na chi.

O, na, allai'm gweud a odd hi'n gyflymach, i chi'n gweld. ôch chi'n câl gwaith i weud honna'n gwic iawn, chi'n gweld. 'Bant â'r mistir â'r agoriad i'r fistres, bant â'r fistres â'r frechdan i'r forwyn ...' [Ail-adrodd y paragraff olaf yn gyflym gyda'r un afiaith unwaith yn rhagor.]

O, rhaid dweud honna'n gyflym, yn gwic.

Odd.

Ie, nachi, ie. Odd ych tad ddim yn gwbod y stori 'na?

Nag odd. Dada'm yn gwbod honna. Rhyw storïe erill odd 'da Dada.

Faint o weithie dach chi'n meddwl glywsoch chi'r stori?

O rhyw ambell i waith, chi'n gwbod. Mam, os bydde hwyl go lew arni, weithie yn gweud pan ôn i'n groten ifanc, falle. Odd hi'n gweud rhyw lot o bethe.

Wrth adrodd y stori y tro cyntaf ceir un llithriad bychan: 'Gwêt ti wrth y forwn am roi - shwt ma hwnna'n mynd nawr? Gwêt ti wrth y forwn ... ' Yna y mae Mary Thomas yn cofio'r drefn gywir ac yn mynd rhagddi i adrodd y stori yn hollol ddidramgwydd, ac eithrio cymysgu'r drefn gyda'r geiriau: 'i'r crydd neud sgidie i'r sâr, i'r sâr roi aerw i'r fuwch' yn y paragraff sy'n dechrau â'r geiriau 'Da forwyn fach ...' Ni chafwyd yr un llithriad yr ail dro yr adroddodd y stori. Dyma ychydig fân amrywiadau rhwng yr adroddiad cyntaf a'r ail:

Cyntaf Ail
rho aerw gwna aerw
roi aerw wneud aerw
golchan golchion (ond golchan yn y frawddeg ddilynol)

Bant â'r mistir â'r allwedd Bant â'r mistir â'r agoriad
Bant â'r mistir â'r agoriad

Nodir teitl y stori y tro cyntaf fel 'Y Frân Fowr a'r Frân Fach yn Mynd i'r Coed i Gnoua.' Yr ail dro y teitl a roddir yw: 'Y Frân Fach a'r Frân Fowr yn Mynd i'r Coed i Gnoua.'

cnoua: amrywiad tafodieithol ar 'cneua': hel cnau.

aerw: amrywiad tafodieithol ar 'aerwy': cow collar

golchion/golchan: dŵr a sbarion llysiau, etc. ynddo i'r mochyn: slops.

Am fersiynau eraill o'r stori gynyddol hon a recordiwyd ar dapiau AWC, gw. Gwilym Major, Llangynwyd, 'Y Ddafatan Fach a'r Ddafatan Fawr Aeth i Gnoia', a Cassie Davies, Tregaron, eitem 'Yr Hen Wraig Fach a'r Oen'.

Am fersiynau o Loegr, gw. Katharine M Briggs, A Dictionary of British Folk Tales, Part A, Folk Narrative, cyf. 2 (1970), tt. 551-3.

Teipiau

AT 2030 Yr hen wraig a'i mochyn.

Motifs