Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrClywed Canu Emyn am Dri o'r Gloch y Bore
Mary Thomas (1905-83)
Fydde 'na hen gymeriad [Rhys Morgan] yn dod aton ni ddwywaith y flwyddyn i iste am y nos i adrodd straeon ... Ac odd e'n adrodd hanes ysbrydion, ac ôn i gymint o ofan hanes yr ysbrydion, odd yn nhad yn gorffod yng nghario i i'r gwely y nosweth hynny ac aros i fi gysgu yn y gwely. Ôn i'n credu bod yr ysbrydion 'da ni yn y rŵm ... [Chwerthin]
Odd e'n byw mewn tyddyn ddim ymhell o Cwm Gwyddyl ... Ac odd e'n dod wedyn – odd yr hen gymeriade, odd dim wireless, odd dim television 'da nhw, ôn nhw'n mynd at 'i gilydd y nosweithe hirnos gaea' i adrodd storïe, straeon wrth y tân. Ac odd e'n dod ddwywaith y flwyddyn lawr aton ni i Cwm Gwyddyl. A dyna fydde ymlân cyn y diwedd fydde hanes trychiolaethe, gole corff a rhyw bethe felny, bob amser.
Dwywaith y flwyddyn -
Cyn Nadolig a cyn Ffair Garon. Odd e'n dod cyn Nadolig [falle wthnos cyn Nadolig] ar ôl bydde mam wedi neud y gacen Nadolig. A fydde'r gacen yn câl 'i thorri i Rhys Morgan gâl 'i blasu hi, cyn Nadolig. Odd e'n dod wedyn cyn base'r defed yn dod ag ŵyn a cyn bydde fe'n dechre ar y tir gatre.
[William Thomas] Troi'r tir, tir brynar.
Ffair Garon, pryd odd hi'n câl 'i chynnal?
Ar yr unfed ar bymtheg o Fawrth yn Tregaron ...
Ie, a wedyn odd y gacen 'ma -
Câl 'i thorri, nosweth 'ny ôn ni'n starto'r gacen.
[WT] Cacen ffwrn-wal, wedi neud yn y ffwrn, i chi'n gwbod.
Odd mam yn neud cacen yn y ffwrn wal, ffwrn ar bwys y tân ... Ôn nhw'n neud padelled o gacen, a fydde'n neud torthe o gacen, dair neu beder torth fawr o gacen.
Beth ôch chi'n galw'r gacen?
Wel, cacen Nadolig.
[WT] Mewn tins felna, chi'n gwbod, rhai mowr felna ...
A wedyn Rhys Morgan fydde'n torri hon?
O, ie, Rhys Morgan fydde'n câl blasu'r gacen Nadolig gynta.
Ac odd o'n cadw'r oed yma wastad?
O, bob amser, bob amser, byth yn misho ... Odd, odd e'n gymeriad arbennig ...
'Na chi. Be oedd y straeon fydde Rhys Morgan yn 'u hadrodd?
O, ombiti trychiolaethe, a gole corff a rhyw bethe felny. Odd e'n gweud, yn adrodd un stori ddiddorol iawn. Odd e'n was ffarm yn Llwyn Gwyddyl, ffarm ddim ymhell o'r ardal. Ac odd hen lanc a hen ferch yn byw yn y ffarm, ac ôn nhw wedi magu mab i whâr iddyn nhw, ac odd hwnnw yn y coleg yn mynd yn weinidog Methodist. A'r adeg hynny ôn nhw'n lladd y llafur â pladurie ac yn 'i roi fe'n stacanne, ac ôn nhw yn neud sopynne ohono fe, os bydde'r tywydd yn wael, neu 'i gario fe, falle, os bydde'r tywydd yn dda. Wel, nawr, rhyw nosweth, odd gyda nhw geied yn y ffarm Llwyn Gwyddyl 'ma o stacanne yn barod nawr i'w gario ac odd yr hen bobol yn mynd allan wrth ole lleuad nawr, nos ole i sopynno'r llafur. A mi âth y Rhys Morgan 'ma, fe a'r mab Llwyn Gwyddyl 'ma - y bachan 'ma odd yn y coleg – allan y nosweth hynny i sopynno llafur yn y nos. Ôn nhw'm nepell iawn o bentre Ffair-rhos. A tua tri o'r gloch y bore, ôn nhw'n clywed canu yn Ffair-rhos yr hymn 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonne ...', yn câl 'i chanu yn Ffair-rhos. A fuon nhw'n gwrando, ôn nhw'n clywed yn blaen, fel petai nhw yn Ffair-rhos, yr hymn yma'n câl 'i chanu trwyddi. Mewn cwpwl o ddwrnode odd 'na hen wraig yn marw yn Ffair-rhos, ac odd 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonne' yn câl 'i chanu ar ben y drws, cyn codi'r angladd allan. Ac odd Rhys wedi clywed y canu, dri o'r gloch y bore dwrnode cyn hynny, yn y nos ... A wi'n siŵr odd Rhys yn un geirwir a hyddysg yn 'i Feibl, a dodd ddim o Rhys yn gweud anwiredd ...
Mae'n anodd 'i gredu o, ond mae rhaid 'i gredu o.
Mae raid 'i gredu e. Mae rhaid 'i gredu e, chwel. Mae rhaid 'i gredu fe.
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 6451. Recordiwyd 4.v.1979.Nodiadau
Clywodd Mary Thomas yr hanes hwn 'lawer o weithe' gan Rhys Morgan, yn ei chartref yng Nghwm Gwyddyl, pan oedd yn blentyn. Roedd Rhys Morgan yn byw ar dyddyn o'r enw Glan Pond yn ardal Ffair-rhos, ar y ffordd i Lynnoedd Teifi. Roedd yn 'cadw tair buwch a cwpwl o ddefed' ac yn 'gwitho'n y Gwaith Mwyn'. Dyn ifanc ydoedd pan glywodd yr emyn yn cael ei ganu. Bu farw 'dros dri ugen a deg, siŵr o fod', tua 'phymtheg mlynedd, falle' yn ôl, adeg y recordiad. Roedd yn gymeriad hoffus, ac meddai Mary Thomas amdano: 'Odd e'n ddyn gole iawn yn y Beibl. Odd e'n athro Ysgol Sul i fi [yn Ffair-rhos].'
Adroddodd Mary Thomas hanes y profiad a gafodd Rhys Morgan gydag argyhoeddiad a didwylledd, mewn arddull afieithus. Er ei bod hi a'i phriod, William Thomas, yn credu'n gydwybodol bod y profiad a gafodd Rhys Morgan yn wir, roedd y ddau yn mwynhau cyflwyno'r hanes hwn gymaint (a nifer o hanesion eraill tebyg iddo) fel eu bod ar adegau yn methu â pheidio chwerthin, yn arbennig ar derfyn yr hanes ac fel ymateb i sylw gan yr holwr neu awgrym o syndod ar ei wyneb.
Gweler hefyd yr eitemau a ganlyn o eiddo Mary Thomas yn ymwneud â'r goruwchnaturiol:
- Gŵr o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff'.
- Llanc Ifanc yn Dod Adre o Garu ac yn Gweld Ysbryd ei Bartner.
- Enoc Ysguborïau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl.
Teipiau
ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |
ML 4040 (C) | Rhagarwyddion marwolaeth. |
ML 4040 (C) (h) | Clywed sŵn canu angylaidd. |
Motifs
ML 4040 (C) | Rhagarwyddion marwolaeth. |
ML 4040 (C) (h) | Clywed sŵn canu angylaidd. |