Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Cosyn Melyn Bach yn Mynd i Nôl Burum i Mam

Gwilym Roberts

Cosyn Melyn Bach yn mynd ar daith go bell i nôl burum i mam, ac mi ddoth ar draws dyn yn torri [gwair]. [Yna ar draws dyn yn torri clawdd.]

'Ble rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?' medde'r dyn oedd yn torri clawdd.

'I nôl burum i mam', medde fo.

A dyma'r hen ddyn 'ma'n trio hitio Cosyn Melyn Bach efo cryman.

'Wel, dwi 'di dod heibio dyn yn torri gwair, ac mi â'i heibio chitha, os galla'i', medde Cosyn Melyn Bach. A dyma fo jymp yn 'i flaen . A mi ath am bwl wedyn a dod ar draws dyn yn torri mawn. A dyma hwnnw'n gofyn:

'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'

'I nôl burum i mam', medde fo, 'dwi wedi dwad heibio dyn yn torri gwair, heibio dyn yn torri clawdd, ac mi â'i heibio chitha, os galla'i', medde fo, felna. A dyma'r hen ddyn 'ma'n ceisio hitio Cosyn Melyn Bach hefo coes huarn torri mawn.

A mi ath yn 'i flaen wedyn, ac odd hi'n dechre twyllu erbyn hyn. A dyma Cosyn Melyn Bach yn dwad i ryw hen goed mawr, ac yn 'i flaen ath o, a dyma ryw hen lew mawr yn dod i'w gwfwr o yn y coed 'ma. Dyma'r hen lew yn gofyn i Cosyn Melyn Bach:

'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'

'I nôl burum i mam', medde fo, felna.

'Tyrd ar fy nghefn i', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.

'Na, na, wir', medyde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde fo, felna.

'Wel, tyrd ar fy ngwar i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.
'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde fo, felna.

'Wel, tyrd ar fy mhen i, 'te', medde fo wrth Cosyn Melyn Bach.

'Na, na, wir, mae'ch ofn chi arna i', medde fo, felna.

'Wel, tyrd ar fy nhrwn i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach. A Cosyn Melyn Bach wedi mynd rwan odd o'n crynu fel deilen, ac ofn ofnadwy, a hithe'n dechre mynd yn nos. 'Tyrd ar fy nhrwyn i', medde'r hen lew 'ma.

'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medda fo, felna.

A dyma'r hen lew 'ma yn neidio amdano fo, ac 'AWCH!', medde fo , felna, a dyma fo'n llyncu Cosyn Melyn Bach. [Chwerthin]

Recording

Cosyn Melyn Bach yn Mynd i N

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 7496. Recordiwyd 31.viii.1989.

Nodiadau

Clywodd Gwilym Roberts y stori hon droeon ar aelwyd Cae-gwyn, Dolwyddelan. Ei dad, Richard Owen Roberts, genedigol o Lanrhychwyn, ger Trefriw, sir Gaernarfon, oedd yn ei hadrodd, ac y mae'n bosibl i'w dad ei chlywed gan ei dad yntau, brodor o'r un ardal. 'Ôn i'n hyna o bump, yndê, a wedyn odd dad yn 'i deud hi wrth Gwen, yn chwaer, a Jean [a finne].' Ambell dro ar nos Sul, ond, gan amlaf, ar nos Sadwrn: 'Odd isho mynd i Ysgol Sul, yndê, ar ddydd Sul, a wedyn bydde isho molchi, mewn twb sinc, dim bath radeg honno. Pawb yn 'i dyrn ym mynd i fewn i'r twb sinc. A wedyn eiste yn un rhes ar y soffa, yndê, cyn câl y gr_el yma, a lwmp o fenyn i fewn ynddo fo. Ôn ni'n barod i fynd i'n gwlâu rwan. Odd dad yn deud y stori "Cosyn Melyn Bach" wrtho ni. Bydda … [Roedd o'n] eistedd ar y gader yn gwynebu ni … A wedyn roedd o'n arfer canu: "Mae Iesu Grist o'n hochor ni, / Fe gollodd Ef ei waed yn lli …" cyn inni fynd i'n gwlâu.'

Adroddir y stori deirgwaith ar y tâp gan Gwilym Roberts, gyda mân wahaniaethau yn unig. Testun o'r drydedd fersiwn a gynhwysir yma. Yn y fersiwn hon yn unig y nodir i'r Cosyn Melyn Bach fynd 'ar daith go bell' i nôl burum. Er i Gwilym Roberts adrodd y stori deirgwaith ar y tâp, cyfaddefai nad oedd bellach yn cofio'n berffaith union rediad y stori, yn arbennig yr agoriad. Yn yr adran sy'n sôn am y ddau ddyn yn torri gwair a thorri clawdd fe welir, felly (o gymharu'r fersiwn ysgrifenedig a'r fersiwn lafar), i rai geiriau gael eu hychwanegu ac i drefn un frawddeg gael ei newid.

Teipiau

AT 2030 Yr hen wraig a'i mochyn.

Motifs