Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Dafydd Morgan, Pant-y-craf, yn Cael ei Wasgu i'r Clawdd gan Angladd

Cassie Davies (1898-1988)

'Na chi, glywsoch chi storïe erill am bobol yn y cylch wedi câl profiad o ysbryd? ... Odd y Ladi Wen yn bod yn yr ardal yma?

Na, ond odd 'na ddyn yn yr ardal odd yn gweld toili, medde fe. Fy nhad odd yn dweud hyn eto. Dafydd odd y dyn. Dafydd Morgan. Pant-y-craf odd enw'r fferm. Nawr, prin dw i'n 'i gofio fe. Ond dwi yn 'i gofio fe. Odd e ddim yn rhyw gryf iawn. Odd y llais - ddim yn hollol afiach, ond odd dim iechyd da gydag e, beth bynnag. Bach yn - felny. [Odd yn nhad yn dweud 'i] fod e'n dod adre gydag e ryw nos o Dregaron. Y ddau ohonyn nhw yn cyd-gerdded ar y ffordd. Ac yn sydyn, yn rhyw fan, dyma Dafydd 'ma'n gweud:

'Cilwch 'nïl', medde fe, wrth fy nhad. 'Cilwch 'nïl'. A 'ma fe'i hunan yn mynd yn fflat yn erbyn y clawdd, yn gwasgu'i hunan felna. A nhad yn dweud 'tho:

'Be sy'n bod?' 'Be sy mater?'

'Wel, gadwch, cilwch, iddyn nhw gal pashio', medde fe. A odd yn nhad yn gweud odd e'n gweld dim.

'Wel, ma 'na angladd, gadwch iddyn nhw gal pashio'.

A fe fuodd fanny'n gwasgu'i hunan yn erbyn y clawdd ac yn gneud i'n nhad i, gy'd a galle fe, i gilo, ac yna, ar ïl iddyn nhw baso ma fe'n dweud:

'Wel, 'na fe nawr, ma nhw wedi mynd', medde fe.

Nawr, odd yn nhad gydag e, yn llygad dyst o hyn.

Recording

Dafydd Morgan, Pant-y-craf, yn Cael ei Wasgu i'r Clawdd gan Angladd

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 2914 - 15. Recordiwyd 9.vii.1970.

Nodiadau

Bu dylanwad yr aelwyd ar fywyd Cassie Davies yn un pellgyrhaeddol. 'Wel, dwi'n siwr mai'r dylanwad mwya o ddigon ar 'y mywyd i ydi'r aelwyd gartre: yr hyn fydde ni'n glywed, yr hyn fydden ni'n 'i neud ... ffordd bydden ni'n difyrru'n hunen, yn difyrru'n gilydd. Sdim un dylwnad wedi bod yn ddyfnach na hwnnw yn y mywyd ... Mwy o ddiddordeb llenyddol odd gyda hi [Mary Davies, ei mam] ... Hi fydde'n dysgu ni adrodd. Ac odd gyda hi nifer dda iawn o bethe ar 'i chof ... posau a diarhebion a phenillion a hen gerddi. Roedd hi'n gyfoethog ar yr ochor yna. Roedd hi'n medru canu, cofiwch ... Ond yn nhad [John Davies] odd y canwr. Odd e yn gerddor, dim un amheuaeth ar y cwestiwn. Odd e'n gerddor o athrylith, dim dowt gen i ... Dw i 'di deud rywbryd mai yn y capel iddo fe rhywbeth rhwng dou emyn odd pregeth ac mai rhywbeth rhwng dwy steddfod odd cynhaea.'

Yr oedd Cassie Davies yn fawr ei gwerthfawrogiad hefyd o ddylanwad un athro yn Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Samuel Morris Powell. Bu'n athro, 1903-45, ac yn Brifathro, 1937-45. Roedd yr ysgol wedi creu ymwybyddiaeth ynddi o 'berthyn i fro. Roedd 'na athro odd o leia hanner can mlynedd o flân 'i oes yn yr ysgol yma, Mr Powell ... Ac odd e'n cysylltu Cymraeg, Hanes a Daearyddiaeth - 'na'i byncie fe. Ac odd e'n gneud hanes lleol, hanes y fro. Nawr oedden ni'n gwbod y cwbwl am chwedle'r ardal 'ma, cylch Ystrad Meurig ac Ystrad-fflur, a Llanddewi a Llangeitho a Thregaron, Ffordd Rufeinig yn Llanio, ac yn y blaen.'

Clywodd Cassie Davies yr hanes am Dafydd Morgan yn gweld angladd pan oedd yn ferch ifanc ar yr aelwyd yng Nghae Tudur, Blaen Caron, gan ei thad, John Davies. Ganed ef yng Nghae Tudur a bu ei deulu yn byw yn yr ardal ers cenedlaethau. Mae'n debyg i'w thad glywed yr hanes gan gymydog. Yr oedd yn arfer y pryd hynny i gymdogion alw draw ac adrodd hanesion o'r fath: 'Felny bydde hi, yntife, rhywun, rhyw gymydog yn galw, a bydde'r sïn yn mynd falle am y dyn 'ma.' Defnyddiai ei thad y gair 'toili' ar gyfer y math hwn o weledigaeth, a dywed Cassie Davies y credai ef mewn toili a bod amser gweld y toili yn arwyddocaol: os gwelid toili yn gynnar yn y nos, byddai hyn yn arwydd o farwolaeth rhywun ifanc, ac roedd gweld toili yn hwyrach yn rhagargoel o farwolaeth rhywun hŷn. Wedi adrodd yr hanes hwn â Cassie Davies rhagddi i drafod rhai arwyddion eraill y credid eu bod yn rhagargoeli marwolaeth, megis y gannwyll gorff, cŵn yn udo, deryn corff, a chlywed cloch yn canu yn eich clust.

Teipiau

ML 4002 (C) Profiadau goruwchnaturiol.
ML 4040 (C) Rhagarwyddion marwolaeth.
ML 4031 (C) c Profiadau yn ymwneud ag ysbrydion.

Motifs

ML 4040 (C) Rhagarwyddion marwolaeth.
ML 4031 (C) c Profiadau yn ymwneud ag ysbrydion.