Canoloesol a Diweddarach
Mae'r casgliadau Canoloesol Cynnar yn cyflwyno'r blynyddoedd o'r 5ed ganrif hyd at yr 11eg ganrif, sef cyfnod o deyrnasoedd bychan annibynnol a reolid gan dywysogion. Datblygiad allweddol yn y cyfnod hwn oedd twf Cristnogaeth. Erbyn y 6ed ganrif, roedd mynachlogydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru. Mae'r clychau cyn-Normanaidd yn y casgliad yn brin iawn ac yn enghreifftiau o waith metel eglwysig canoloesol. Oherwydd yr arfer o godi cofebion a chofadeiliau carreg mae cofnod gwerthfawr ar gael sy'n rhoi gwybodaeth am ddatblygiad iaith, arferion claddu a thraddodiadau celfyddydol. Mae nifer fawr o gerrig gwreiddiol a chastiau yn y casgliadau. Mae yno enghreifftiau cynnar, gydag arysgrifau Lladin ac ogam, a chroesau diweddarach ar eu traed eu hunain.
Yn y casgliad canoloesol mae henebion o'r 11eg i'r 16eg ganrif. Am ddwy ganrif, o ddiwedd yr 11eg ganrif ymlaen, fe frwydrodd y Normaniaid a'r Saeson i geisio rheoli Cymru. Yr un pryd roedd arweinwyr brodorol yn gosod seiliau cadarn yn y gogledd-orllewin. Cynrychiolir y brwydro yn y cyfnod cynnar hwn gan gleddyfau, gwaywffyn a phennau saethau o wahanol gestyll yng Nghymru. O'r cyfnod canoloesol diweddar daw ffurf gynnar ar wn llaw (hagabwt) a gaed yn y môr oddi ar Ynys Enlli, Gwynedd. Ddechrau'r 15fed ganrif, oherwydd bod Cymru dan gymaint o gwmwl bu gwrthryfel cenedlaethol, dan arweiniad Owain Glyndŵr. Arddangosir ei sêl, a mownt arfbais gilt efydd gydag arfau Tywysogion Gwynedd.
Cawn gipolwg ar fywyd beunyddiol yng Nghymru yn y canol oesoedd trwy gyfrwng y casgliad mawr o ddarganfyddiadau seciwlar o'r trefi ac o gefn gwlad. Mae'r rhain yn amrywio o bwcedi pren i ddarnau o emwaith personol, fel tlws aur Oxwich o Benrhyn Gyr. Dangosir llawer o dystiolaeth o ddiwydiant yng Nghymru hefyd. Roedd eglwysi a mynachlogydd yn dylanwadu ar bron bob rhan o fywyd beunyddiol y bobl. Roeddynt yn ganolfannau dysg a gweithgareddau celfyddydol. Ymhlith y gwrthrychau eglwysig y mae croes orymdaith a llunddelwau crog pren prin o Fochdre, Powys. Mae'r casgliadau cyfeiriol yn cynnwys matricsau seliau, teils llawr wedi'u haddurno a cherameg canoloesol.