Archifau

Mae gan adran Archeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru gasgliadau ymchwil ac archif sy’n rhychwantu canrif a mwy.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Archifau cloddio;
  • Ffotograffau a darluniadau sy'n gysylltiedig â gwrthrychau a chloddiadau;
  • Casgliad o rwbiadau pres a maen o'r Canol Oesoedd;
  • Archif busnes adrannol.

Gallwch wneud ceisiadau ffotograffig am ymchwil bersonol/academaidd o hyd drwy Lyfrgell Lluniau Amgueddfa Cymru.