Planhigion Fasgwlaidd
Mae planhigion fasgwlaidd yn cynnwys y dosbarthiadau cyffredinol o redyn, conifferau a phlanhigion blodeuol. Dyma'r prif dyfiannau ar draws y rhan fwyaf o'r byd ac o ganlyniad hwy yw'r flaenoriaeth gyntaf fel arfer ar gyfer astudiaeth gan fod y rhan fwyaf o grwpiau eraill fel ninnau yn dibynnu arnynt.
Amcan y Llysieufa Blanhigion Fasgwlaidd yw rhoi darlun cyflawn o fflora Cymru drwy gyfrwng casgliadau sy'n rhyngwladol o ran eu cwmpas, eu pwysigrwydd a'u safon. Er mwyn i fflora Cymru gael ei osod yn ei gyd-destun, ceir deunydd hefyd o weddill ynysoedd Prydain, Ewrop a gweddill y byd. Mae'r casgliadau o bwys rhyngwladol.
Mae'r llysieufa yn cynnwys oddeutu 40% o ddeunydd o Gymru, 25% o weddill ynysoedd Prydain, 22% o dramor a 3% sydd wedi'i dyfu. Mae bron pob planhigyn brodorol o wledydd Prydain wedi'i gynrychioli ynghyd â llawer iawn o rywogaethau sydd wedi’u cyflwyno. Ceir hefyd gasgliadau nodedig o grwpiau allweddol gan gynnwys Hieracium, Rubus, Sorbus a Taraxacum. Ymhlith y casgliadau cysylltiedig, ceir y llyfrgell, y casgliadau coed, sleidiau ffotograffig, planhigion wedi'u cadw mewn hylif, carpologaidd, hadau, modelau cwyr, stampiau a chardiau sigarennau a phlanhigion economaidd.
Cychwynnwyd y llysieufa ym 1870 pan brynodd Amgueddfa Caerdydd gasgliad bychan o blanhigion sych a gasglwyd yn ystod y 1830au gan Charles Conway. Ychwanegwyd at y casgliad yma gan John Storrie a roddodd ei gasgliadau i'r Amgueddfa ym 1888, ac oddeutu 1900, derbyniwyd dau gasgliad pwysig gan A. Bennett a H.J. Riddelsdell. Ym 1912, daeth y casgliad i ddwylo Amgueddfa Genedlaethol Cymru a oedd newydd ei sefydlu. Yr adeg honno roedd y casgliad yn cynnwys rhyw 3,500 o sbesimenau wedi'u mowntio. Erbyn 2009, roedd y casgliadau wedi ehangu i gynnwys rhyw 255,000 o sbesimenau drwy roddion, cyfnewid, prynu herbaria a gwaith maes.