Llyfrgell ac Archifau
Llyfrgell
Mae llyfrgell Sain Ffagan yn cynnwys deunydd sy'n gysylltiedig â hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae'n darparu adnoddau a gwasanaeth, i staff yr Amgueddfa yn bennaf, i hyrwyddo pob agwedd o'u gwaith: adnabod gwrthrychau, eu dehongli yn eu cefndir sosio-hanesyddol, gofalu amdanynt, ateb ymholiadau, paratoi arddangosfeydd, ac yn y blaen. Croesewir hefyd aelodau o'r cyhoedd i ddefnyddio'r Llyfrgell. Defnyddir hi'n enwedig gan fyfyrwyr a gweithwyr cyfryngau, yn ogystal ag unigolion.
Mae'r llyfrgell ar agor ddydd Llun a Mawrth 10:00-4:45yh
Archif Sain
Er y dechrau cyntaf, bu recordio siaradwyr ar bob agwedd o fywyd gwerin yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Dechreuwyd casglu yn y maes yn niwedd y 1950au, gan roi'r pwyslais ar yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr iaith a'r bywyd traddodiadol fwyaf mewn perygl.
Mae'r recordiadau'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau:
- amaethyddiaeth
- crefftau
- gwaith tŷ
- bwydydd traddodiadol
- meddyginiaethau gwerin
- chwaraeon
- storïau gwerin
- canu gwerin
- arferion tymhorol
- arferion marw a chladdu
- diwydiannau megis y diwydiant glo
- y sefyllfa ieithyddol
- tafodieithoedd y Gymraeg a geirfâu crefft
Er bod y mwyafrif o'r cyfweliadau yn Gymraeg, mae hefyd oriau lawer o ddeunydd yn yr iaith Saesneg, yn enwedig o'r ardaloedd hynny sydd yn hanesyddol Saesneg eu hiaith, megis de Penfro, Bro Gwyr a'r Gororau, a'r de-ddwyrain diwydiannnol. Ychwanegwyd at y rhain pan dderbyniwyd casgliad o dros 600 o dapiau ymchwil ar gyfer cyfres hanes llafar All Our Lives BBC Cymru i'r archif.
Archif Ffilm a Fideo
Mae gan yr Amgueddfa archif ddethol o tua 50 awr o ffilmiau 16mm. Gwnaed cyfran helaeth ohonynt yn y 1970au gan aelodau o staff curadurol yr Amgueddfa a oedd yn awyddus i gofnodi olion diwethaf yr hen ffordd Gymreig o fyw. Ffilmiau mud lliw ydynt o hen ddulliau o amaethu, gwneud bwydydd traddodiadol, ac arddangos crefftau traddodiadol.
Yn ychwanegol at ffilmiau a wnaed yn y maes, ceir ffilmiau 16mm a roddwyd i'r archif, neu a gafwyd gan gwmnïau megis y BBC a TWW wedi iddynt gydweithio â staff yr Amgueddfa ar raglen deledu.
Ymhlith y rhain ceir ffilmiau o'r Fari Lwyd yn Llangynwyd yn y 1960au, Hywel Wood y sipsi Cymreig yn clocsio yng nghegin Castell Sain Ffagan pan oedd yn 80 oed, a chopi o 'Y Chwarelwr' - y ffilm lafar gyntaf yn y Gymraeg.
Archif Llawysgrifau
Er i'r Amgueddfa, fel y gellid disgwyl, roi pwyslais o'r cychwyn ar gasglu gwrthrychau, mae gan yr Archif yn ei meddiant lu o lawysgrifau megis:
- llythyrau,
- nodiadau ar wahanol bynciau,
- cynhyrchion eisteddfodol a chymdeithasau arbennig,
- traethodau ymchwil perthnasol,
- baledi, carolau ac anthemau printiedig,
- dyddiaduron,
- llyfrau cyfrifon ffermwyr, crefftwyr a masnachwyr,
- llyfrau lloffion,
- cynlluniau adeiladau
- cytundebau prentisiaeth
- llyfrau ymarferion ysgol
- llyfrau clustnodau defaid
- llythyrau neithior (printiedig)
Archif Ffotograffiaeth
Mae'r Archif Ffotograffiaeth yn cynnwys tua 150,000 o negyddion a phrintiau, a thua 15,000 o dafluniau. Ers agor Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 1948 bu'r staff yn tynnu lluniau o fywyd gwerin Cymru, ac mae'r Archif Ffotograffiaeth yn cynnwys y rhain, ond hefyd gyfoeth o luniau llawer hyn a gaffaeliwyd yn rhoddion, neu a gopïwyd o luniau gwreiddiol a fenthyciwyd i'r Amgueddfa i'r perwyl hwn.
The Photographic Archive is used extensively by researchers, and especially by publishers and the media.