Adnoddau Ymchwil yr Adran

Mae'r casgliadau diwydiant yn cynnwys y canlynol:

  • Gwrthrychau tri-dimensiwn, yn amrywio o ran maint o gychod gwreiddiol, locomotifau ac injans sefydlog i fodelau wrth raddfa o'r gwrthrychau hyn, o haearn crai i filed a hoelion, ac o dorwyr glo i fandrelau
  • Dogfennau, e.e. posteri, pamffledi, papurau cyflog, tystysgrifau rhyddhau, cytundebau
  • Ffotograffau, negyddion papur, gwydr a ffilm, printiau gwreiddiol a chopïau, celfweithiau (pob cyfrwng) a chelfyddyd gymhwysol
  • Recordiau ffilm a sain, pob fformat, o sine, u-matig a VHS, o dapiau rîl i gasetiau.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a'r curadur perthnasol.

Canolfan Casgliadau Cenedlaethol

Mae'r Ganolfan Gasgliadau, Nantgarw, yn agored i ymchwilwyr, drwy drefniant ymlaen llaw, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ymweld â'r Canolfan Casgliadau Cenedlaethol